Afal Ddrwg Magi
Dwi newydd ddychwelyd o Efrog Newydd. Roedd yn ace iawn. Alex, Louise, Marged a fi yn y ddinas fawr ddrwg am dridie. Nethon ni sgwisho gwerth mis mewn i ddau ddiwrnod a thair noson. Dwi wedi bod i Efrog Newydd o'r blaen ond roedd y tro cyntaf yn uuhh.. "wahanol" ond stori wahanol yw hynny. Roedd y tro hwn yn wahanol achos roedd y cwmni yn berffaith! Dyma be nethon ni;
- Cael limo i'r maes awyr - gyda champagne a phopeth!
- Marged yn cael scrap gyda rhywun ar yr awyren achos nath e roi ei sedd nol a doedd dim lot o le gan goesau Marged
- Mynd ar daith Sex and The City lle gafon ni lun ty fas i fflat Carrie Bradshaw
- Mynd o amglylch Central Park mewn cart a cheffyl
- Mynd i glwb nos posh, lle roedd y DJ yn chware chiawns anhygoel gan David Bowie, Blur a Rod Stewart!
- Mynd i Time Square a gweld rhywun arall o'r BBC (duw, ma'r byd ma'n fach)
- Mynd i gael ein gwalltie 'di neud gan fenyw o'r enw Theresa oedd union r'un peth â chwaer Ugly Betty
- Cael ein aeliau wedi wacsio gan fenywod creulon iawn o Tseina
- Codi'n hwyr ar y diwrnod ola' a bron colli'r awyren
Nethon ni lot fawr o bethau eri'll ond fi ddim ise'ch diflasu chi drwy fynd mlaen a mlaen a mlaen... ond roedd e'n fab. Wedi blino'n lân nawr ond rhaid cadw ar ddihun achos fi a mam a sian ac emma a lydia a derfel yn mynd i weld Dolly Parton heno. Mam yn addo gwisgo stetson! Yeee Haaa!
Gan fy mod yn Noooo Yoirk dros y penwythnos nath Daf Du gyflwyno gyda Glyn ar ddydd Sadwrn - felly dyma nodyn bach gan Dave the Rave*
Helo! Dyma fi Daf Du. Nes i gyflwyno yn lle Magi ar fore dydd Sadwrn. Doeddwn ni ddim hanner cystal â Magi. Ma hi'n wych. Doeddwn i chwaith ddim yn edrych mor hot â Magi - ma hi wastad yn edrych yn anhygoel pan mae'n cyflwyno ar foreuau Sadwrn. Roedd y gynulliedfa wedi gweld ei heisiau yn arw. Dim ots - fydd hi nol fore Sadwrn nesa! Tata
* ddim yn hollol wir
Magi xxxx

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.