Top O' Da Mornin To Ya!....
Er i fi gael gael noson fawr nos Sadwrn dwetha gyda fy nghefnder David, doedd hynny ddim yn mynd i fy stopio rhag mynd mas yr wythnos hon! Roedd ffrind i fi yn dathlu ei benblwydd yn 22 ddechrau'r wythnos felly aethon ni i glwb nos yn y dre a dawnsio drwy'r nos. Roedd mor gymaint o ferched del yno roeddwn ni mega hapus!
Ma'r hyfforddi ar gyfer y Marathon yn mynd yn dda. Ma Daf Du wedi rhoi cynllun hyffroddi i fi ddilyn, felly dwi di bod yn jogio bob nos... bron.. Ma gen i goes tost ar hyn o bryd achos dwi wedi bod yn ymarfer mor galad, felly dwi di bod yn rwbio Deep Heat arno fo a dwi'n siwr fyddai'n iawn erbyn y Marathon. Dwi'n siwr nai guro Daf Du!
Doedd Magi ddim yma fore Sadwrn. roedd hi yn Efrog Newydd. Neis iawn! Dwi'n gobeithio mydn i'r Big Apple cyn hir felly gobeithio neith hi roi tips i fi ar lle i fynd i glybio! Roedd rhagen dydd Sadwrn yn dda iawn - mae Daf Du a fi yn ffrindia da a da ni'n cael laff. Ond dwi'n edrych mlaen cael Magi nôl!
Son am deithio dwi'n mynd i Iwerddon wythnos nesa i weld Spiral. Dwi di bod yn Iwerddon mor gymaint o weithiau ond dwi ddim di gweld Spiral ers sbel, a dwi'n edrych mlaen i weld o. Dwi hefyd yn gobeithio cael cariad del Gwyddelig! Nai ddeud popeth wrtho chi wythnos nesa!
Hwyl
Glyn x

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.