New corporate website for BBC Cymru Wales
Robin Moore
Senior Executive Producer, Products and Innovation, BBC Cymru Wales
Today we’ve launched a new corporate site for BBC Cymru Wales, bringing it into the About the BBC site with a fresh new look.

BBC Cymru Wales produces TV, Radio and Online output for Wales, in English and Welsh, and plays its part in the wider BBC by producing shows like Sherlock and Crimewatch. Our new BBC Cymru Wales section within About the BBC aims to give you a better understanding of what we do, how we do it and how to get in touch.
Since our success in producing Doctor Who in Wales, audiences have become much more interested in what’s going on here at BBC Cymru Wales. With this in mind, we have introduced two new features: on the homepage you’ll find a showreel of highlights from the programmes we’ve made in the last year and under What we do we’ll be updating you on upcoming programmes made here.
In the coming year we’ll be extending this, looking at more behind-the-scenes content and, in the run up to our 50th anniversary early next year, adding a lot more about our history and the best of the programmes we have made over the years.
As you would expect, the website is bilingual: simply click ‘Cymraeg’ in the top left. In an improvement on our old site, you can now toggle language on individual pages as opposed to the whole site.
The site also caters for the production community with guidance on commissioning and delivery of programmes; for partners on how to work with us; and for job hunters and the press there are links to the Wales sections of the Careers and Media Centre sites.
Finally, if you haven’t found what you need, there is information on how to contact us in Welsh or English. Feedback on the site itself would, of course, be particularly welcome.
Heddiw, rydym wedi lansio gwefan gorfforaethol newydd ar gyfer BBC Cymru Wales a’i gwneud yn rhan o’r wefan “Am y BBC” gyda gwedd newydd a ffres iddi.
Mae BBC Cymru Wales yn cynhyrchu allbwn Teledu, Radio ac Arlein ar gyfer Cymru yn y Gymraeg a’r Saesneg ac yn chwarae rhan yn y BBC ar lefel ehangach trwy gynhyrchu rhaglenni fel Sherlock a Crimewatch. Mae ein hadran BBC Cymru Wales newydd o fewn “Am y BBC”, yn anelu at roi gwell dealltwriaeth i chi o’r hyn rydym yn ei wneud, sut rydym yn ei wneud e a sut gallwch chi gysylltu â ni.
Ers ein llwyddiant yn cynhyrchu Doctor Who yng Nghymru, mae cynulleidfaoedd wedi dangos mwy o ddiddordeb yn ein gweithgareddau yn BBC Cymru Wales. Gyda hyn mewn golwg, rydym wedi cyflwyno dwy nodwedd newydd i’r hafan lle gwelwch chi ffilm fer o uchafbwyntiau’r rhaglenni rydym wedi eu cynhyrchu yn y flwyddyn ddiwetha a byddwn yn diweddaru’r adran Beth a wnawn gyda newyddion cyson i chi am raglenni sydd i ddod.
Yn y flwyddyn i ddod, byddwn yn ehangu ar hyn, gan ffocysu ar greu mwy o gynnwys ‘tu ôl i’r llenni’, ac i baratoi at ein penblwydd yn 50 blwyddyn nesa byddwn yn ychwanegu mwy o wybodaeth am ein hanes a phigion o’r rhaglenni a gynhyrchwyd gennym dros y blynyddoedd.
Fel y gallech ddisgwyl, mae’r wefan yn ddwyieithog: cliciwch ar ‘Cymraeg’ ar frig y dudalen ar y chwith. Mewn gwelliant i’r hen wefan, gallwch nawr newid eich iaith ar dudalennau unigol yn hytrach na’r wefan gyfan.
Mae’r wefan hefyd yn rhoi cymorth i’r gymuned gynhyrchu gyda chyfarwyddid ar gomisiynu a chyflwyno rhaglenni; i bartneriaid ar sut i weithio gyda ni; ac i’r rhai sy’n chwilio am waith ac aelodau o’r wasg, mae yna ddolenni i adrannau Cymru ein gwefannau Gyrfaoedd a’r Ganolfan Gyfryngau.
Yn olaf, os na allwch ddod o hyd i rywbeth, mae yna wybodaeth ar sut gallwch gysylltu â ni yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Rydym yn croesawu adborth am y wefan.
Robin Moore is Senior Executive Producr, Products and Innovation, BBC Cymru Wales.
