Beth yw egni adnewyddadwy?
Mae egni adnewyddadwy yn golygu defnyddio pŵer o bethau ym myd natur sydd byth yn dod i ben, fel golau haul, gwynt, dŵr a gwres o’r Ddaear. Yn wahanol i danwydd ffosil, sydd yn adnoddau cyfyngedigPan fydd rhywbeth ond yn gallu cael ei ddefnyddio nifer penodol o weithiau cyn iddo ddod i ben. Er enghraifft mae olew yn adnodd cyfyngedig.ac sy’n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd, mae ffynonellau egniadnewyddadwy yn gynaliadwy, yn lân ac yn rhyddhau ychydig iawn o nwyon tŷ gwydr. Mae eu defnyddio’n bwysig iawn er mwyn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a gwneud yn siŵr bod gennym ddigon o egni ar gyfer y dyfodol.
Fideo: Egni adnewyddadwy
Mae llawer o gynnydd wedi ei wneud yng Nghymru ar egni adnewyddadwy, ac ar draws y byd hefyd.
Ffynonellau egni naturiol fydd byth yn dod i ben yw'r rhain ac sy’n rhyddhau ychydig iawn neu ddim o gwbl o nwyon tŷ gwydr sy’n difrodi’r hinsawdd.
Hyd at y ddeunawfed ganrif, roedd y rhan fwyaf o bobl yn byw mewn ardaloedd gwledig yn ffermio neu’n cynhyrchu nwyddau ar raddfa fechan iawn.
Ond pan ddechreuon ni gynhyrchu ar raddfa fawr, symudodd fwy o bobl i’r trefi a’r dinasoedd er mwyn gweithio mewn ffatrïoedd a chloddfeydd.
Wnaethon ni hefyd ddechrau defnyddio llawer mwy o egni oedd yn cael ei gynhyrchu drwy losgi tanwydd ffosil fel glo, olew a nwy.
Mae tanwydd ffosil yn ffynonellau cyfyngedig, sy’n golygu y byddan nhw’n rhedeg allan yn y pen draw.
Maen nhw hefyd yn rhyddhau llawer o nwyon tŷ gwydr.
Gan fod y newidiadau wedi digwydd ar wahanol adegau drwy’r byd, mae ambell wlad wedi bod yn llosgi tanwydd ffosil am gyfnod hirach nag eraill.
Y Deyrnas Unedig oedd un o’r rhai cyntaf, felly mae’n bosib dadlau fod cyfrifoldeb mawr gennym i sortio’r broblem.
Mae egni adnewyddadwy yn allweddol bwysig ar gyfer lleihau nwyon tŷ gwydr.
Ond mae gan bob un eu manteision a’u hanfanteision. Felly beth am glywed mwy?
Mae solar yn troi golau haul yn egni.
Dydy o ddim yn creu nwyon tŷ gwydr ond mae’n cynhyrchu llai o egni pan mae hi’n gymylog, ac yn cynhyrchu dim yn y nos, sy’n golygu bod yr egni sy’n cael ei greu yn amrywio llawer rhwng yr haf a’r gaeaf.
Mae melinau gwynt yn defnyddio pŵer gwynt i greu trydan.
Fel solar, dydy pŵer gwynt ddim yn rhyddhau nwyon tŷ gwydr.
Mae dadleuon ynglŷn ag effaith y tyrbinau gwynt ar yr olygfa yng nghefn gwlad, a dydyn nhw ddim yn cynhyrchu trydan os nad ydy’r gwynt yn chwythu.
Ond, rydyn ni’n ffodus fod Cymru yn wlad wyntog!
Mae argaeau yn creu pŵer hydrodrydanol o’r dŵr sy’n rhedeg trwyddynt.
Mae’r broses yn weddol ddibynadwy a dydy o ddim yn creu allyriadau tŷ gwydr ond mae angen boddi ardal fawr i’w hadeiladu, sy’n gallu bod yn wael i’r amgylchedd leol.
Mae argaeau hefyd yn cael eu gwneud gyda choncrid sydd yn cynhyrchu nwyon tŷ gwydr wrth iddo gael ei greu. Ond byddai’r system yma’n gweithio’n dda efo’r holl afonydd sydd gennym ni yng Nghymru.
Biomas yw deunydd sy’n cael ei greu gan blanhigion ac anifeiliaid sy’n gallu cael ei losgi er mwyn cynhyrchu egni.
Mae llosgi biomas yn lleihau beth sy’n cyrraedd safleoedd tirlenwi ond mae’n rhyddhau lefelau isel o nwyon tŷ gwydr.
A gall tir da ar gyfer bywyd gwyllt neu dyfu bwyd ddiflannu pe bai’n cael ei ddefnyddio i dyfu tanwydd biomas yn ei le.
Mae celloedd tanwydd hydrogen yn defnyddio hydrogen ac ocsigen i gynhyrchu trydan.
Dydyn nhw ddim yn rhyddhau nwyon tŷ gwydr, ond gall cynhyrchu hydrogen olygu defnyddio tanwydd ffosil, ac mae’n anodd ei storio.
Byddai osgoi tanwydd ffosil a defnyddio egni adnewyddadwy yn help enfawr tuag at yr her o daclo newid hinsawdd.
Ond, mae gweithfeydd sy’n cynhyrchu haearn a chloddfeydd dal yn ddibynnol iawn ar danwydd ffosil, ac mae yna lawer o bobl yng Nghymru yn gweithio yn y diwydiannau yma.
Wedi dweud hynny, mae mwy a mwy o egni Cymru ac ar draws Y Deyrnas Unedig yn dod o ffynonellau adnewyddadwy.
Ym Mhen y Cymoedd er enghraifft, mae yna fferm wynt efo mwy na 70 tyrbin.
Mae technoleg yn gwella hefyd ac wrth fuddsoddi mwy o amser a sylw i dechnoleg, yna mi fydd yn well yn ogystal â bod yn rhatach.
Mae pŵer solar bellach yn rhatach na’i gynhyrchu o danwydd ffosil.
Ac oherwydd fod pŵer solar wedi gwella gymaint, mae o rŵan yn gwneud synnwyr hyd yn oed yn yr holl dywydd glawog yma rydyn ni’n cael.
Pam mae angen mwy o ffynonellau egni cynaliadwy arnom?
Pan symudodd pobl o gefn gwlad i fyw mewn dinasoedd, cafwyd diwydiannu, a arweiniodd at gynnydd yn y galw am egni. Roedd gwahanol wledydd yn profi diwydiannu ar adegau gwahanol, gyda’r DU yn un o’r cyntaf i wneud. Roedd De Cymru yn cynhyrchu traean o allforion glo y byd erbyn 1900. Cafodd y galw am egni ei ddiwallu drwy ddefnyddio tanwyddau ffosil fel pren, glo, olew a nwy.
Mae tanwyddau ffosil yn llygrwyr mawr oherwydd eu bod yn rhyddhau carbon deuocsid, ac mae’r mathau hyn o ffynonellau egni yn gyfyngedig, sy’n golygu nad oes gan ein planed gyflenwad diddiwedd ohonyn nhw. Wrth i’n poblogaeth barhau i dyfu, felly hefyd y galw am:
- ffatrïoedd
- ceir
- ffyrdd gwahanol o deithio
- nwyddau trydanol
O ganlyniad, mae straen enfawr yn awr ar ein cyflenwadau tanwydd ffosil, ac mae ein cyflenwad cyfyngedig yn lleihau.
O ystyried goblygiadau amgylcheddol tanwyddau ffosil, mae egni adnewyddadwy yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Fideo: Egni adnewyddadwy ar waith
Yng Nghymru ac ar draws y byd ry'n ni'n cael mwy a mwy o egni o ffynonellau adnewyddadwy.
Ond beth am i ni ddarganfod yn union beth mae hynny'n feddwl, sut allwn ni helpu.
Mae llosgi tanwydd fel olew, nwy neu lo i greu egni yn rhyddhau nwyon tŷ gwydr.
Y nwyon yma sy'n dal gwres yn atmosffer y Ddaear ac sy'n gwaethygu newid hinsawdd.
Ar y llaw arall mae egni adnewyddadwy yn dod o ffynonellau naturiol fel y gwynt neu'r haul, sydd yno o hyd, ac ychydig iawn os dim o gwbl o nwyon tŷ gwydr mae'n rhyddhau.
Ar draws Cymru ry'n ni'n cynhesu cestyll efo biomas sy'n llosgi cynnyrch gan anifeiliaid a phlanhigion i gael egni.
Ry'n ni'n pweru caffis gerddi efo solar, a mae ganddon ni un o olwynion dŵr mwya Ewrop sy'n cynhyrchu trydan.
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp egni adnewyddadwy er mwyn cyrraedd sero net, a mae yna sawl ffodd y gallwn ni gyfrannu hefyd.
Os alli di, tria ddarganfod o lle ddaw'r egni ti'n ddefnyddio.
Os nad ydy o'n adnewyddadwy mi elli di siarad efo'r oedolion yn dy fywyd i drafod y posibilrwydd o gael egni o rywle arall.
Meddylia sut wyt ti'n mynd a dod hefyd.
Ag os alli di, dewisa ddulliau sy'n defnyddio egni adnewyddadwy i deithio.
Gall gosod paneli solar olygu biliau rhatach yn y pen draw.
Wrth gwrs does yna ddim rhaid i ti wneud hyn ar dy ben dy hun – gall gydweithio neu weithio mewn grwpiau gael dylanwad cryfach.
Beth am ymuno efo grŵp ieuenctid sy'n ffocysu ar fod yn fwy cynaliadwy?
Mae yna sawl grŵp ar gael ar draws Cymru.
Drwy weithio mewn grŵp galli di ddysgu mwy am y pwnc.
Mae cydweithio yn fwy o hwyl a gall o hyd yn oed wneud i rywbeth anodd deimlo'n haws.
Mae'n bosib hefyd i ti anfon deiseb at y llywodraeth leol drwy ysgrifennu llythyr neu ebost efo llofnodion i gefnogi dy bwynt.
Galli di ofyn iddyn nhw ddefnyddio mwy o ffynonellau adnewyddadwy a defnyddio technoleg all fanteisio'n llawn ar rheini, fel bysiau trydan.
Gyda mwy o brosiectau fel yma yn digwydd ar draws Cymru a'r byd mae newid positif yn digwydd.
Allwn ni gyd wneud gwahaniaeth. Amdani!
Gweithgaredd: Enghreifftiau o ffynonellau egni cynaliadwy
Enghreifftiau eraill o ffynonellau egni cynaliadwy
Biomas - yn troi deunyddiau organig yn egni, gan leihau gwastraff tirlenwi.
Celloedd tanwydd hydrogen - yn cynhyrchu trydan o hydrogen ac ocsigen heb allyrru nwyon tŷ gwydr.
Egni geothermol - gwres sy’n dod o ddyfnderoedd y tu mewn i’r Ddaear. Gallwn ddefnyddio’r gwres hwn i wneud trydan neu i wresogi adeiladau.
Beth yw manteision ac anfanteision ffynonellau egni adnewyddadwy?
Mae ffynonellau egni adnewyddadwy, fel golau haul, gwynt a dŵr, yn wych oherwydd dydyn nhw ddim yn dod i ben fel tanwyddau ffosil. Dydyn nhw ddim yn llygru’r aer fel glo neu olew ac mae eu defnyddio yn creu swyddi ac yn helpu ein planed.
Ond weithiau, mae yna heriau wrth eu defnyddio. Dydyn nhw ddim bob amser yn gweithio pan fydd eu hangen arnom, fel pan nad yw’r gwynt yn chwythu neu pan nad yw’r haul yn tywynnu. Hefyd, gall sefydlu systemau egni adnewyddadwy gostio llawer i ddechrau, ac efallai y byddan nhw'n cymryd llawer o le. Felly, er eu bod nhw’n wych i’r amgylchedd, mae yna rai heriau.
Mae deall manteision a chyfyngiadau pob ffynhonnell egni adnewyddadwy yn hanfodol, er mwyn i ni allu penderfynu pa un yw’r ffynhonnell egni orau i ni.
Egni solar
| Manteision | Anfanteision |
|---|---|
| Mae pŵer yr haul yn ddi-ben-draw ac yn lân, ac nid yw’n cynhyrchu unrhyw lygredd. Mae’n hawdd ei gynnal ac mae ei gostau gweithredu’n isel. | Mae cynhyrchu egni'n newid yn ôl y tywydd, yn enwedig mewn lleoedd fel Cymru lle mae golau’r haul yn amrywio’n sylweddol rhwng tymhorau. |
Egni gwynt
| Manteision | Anfanteision |
|---|---|
| Gellir ei adeiladu ar y tir ac mae'n dod â manteision economaidd i’r ardal wrth greu swyddi. | Mae dadl ynghylch eu heffaith weledol. Yn ystod cyfnodau tawel o dywydd gall cynhyrchu egni leihau, er bod Cymru’n elwa o wynt cyson. |
Egni trydan dŵr
| Manteision | Anfanteision |
|---|---|
| Mae’n defnyddio dŵr sy’n llifo, sy’n adnodd sy’n cael ei ail-lenwi’n gyson. Dibynadwy ac yn para am amser hir, gyda rhai systemau’n helpu i storio egni. | Gall adeiladu argaeau a morgloddiau gael effaith ddifrifol ar amgylcheddau lleol drwy lifogydd. Gallai hefyd effeithio ar ble mae adar hirgoesAderyn gyda choesau hir sy’n dod o hyd i fwyd mewn dŵr. yn bwydo neu lle mae silodMas o wyau wedi'u dodwy mewn dŵr.. |
Biomas
| Manteision | Anfanteision |
|---|---|
| Mae’n dibynnu ar ddeunyddiau gwastraff organig, sydd ar gael yn rhwydd ym mhob cartref. Yn lleihau llygredd a gwastraff tirlenwi. | Mae’n rhyddhau lefelau isel o nwyon tŷ gwydr fel methan. Gall gystadlu am dir â bywyd gwyllt neu gynhyrchu bwyd. |
Celloedd tanwydd hydrogen
| Manteision | Anfanteision |
|---|---|
| Maen nhw'n defnyddio tanwydd yn fwy effeithlon na pheiriannau traddodiadol, gan gael mwy o egni o’r un faint o danwydd. Dydyn nhw ddim yn cynhyrchu unrhyw allyriadau, dim ond anwedd dŵr a gwres, felly does dim llygredd. | Mae’n bosibl y bydd cynhyrchu’r celloedd yn dibynnu ar danwydd ffosil i ddechrau. Mae technoleg celloedd tanwydd hydrogen yn ddrud i’w chynhyrchu ar hyn o bryd. Gall cynnal a chadw, a storio’r celloedd yn ddiogel achosi problemau. |
Egni geothermol
| Manteision | Anfanteision |
|---|---|
| Gan fod y gwres yn dod o’r Ddaear, mae bob amser ar gael i’w ddefnyddio. | Mae angen creigiau poeth neu ddŵr ger wyneb y Ddaear ar safleoedd pŵer geothermol, ac nid yw’r rhain i’w gweld ym mhob lleoliad. |
Gweithgaredd: Enghreifftiau o egni adnewyddadwy yng Nghymru
Yng Nghymru, galli ddod o hyd i lawer o enghreifftiau o ffynonellau egni adnewyddadwy. Rydyn ni’n defnyddio egni gwynt o ffermydd gwynt ar y môr a thyrbinau gwynt ar y tir. Defnyddir afonydd a chronfeydd dŵr ar gyfer gorsafoedd pŵer trydan dŵr. Fe weli di hefyd baneli solar ar doeau ac mewn caeau.
Rôl egni adnewyddadwy wrth lunio ein dyfodol
Mae egni adnewyddadwy, fel egni solar a gwynt, yn chwarae rhan enfawr yn ein bywydau, hyd yn oed os nad ydyn ni bob amser yn sylwi arno. Mae’n ymwneud â’r gwahanol fathau o egni rydyn ni’n eu defnyddio i oleuo ein cartrefi, rhedeg ein hysgolion, ac yn y bôn i bweru ein byd.
Pam fod hyn yn bwysig? Mae’n golygu ein bod yn cael anadlu aer glanach, sy’n well ar gyfer ein hiechyd a dyfodol y blaned. Ar ben hynny, mae’n creu cyfleoedd ar gyfer swyddi newydd a thechnolegau arloesol. Mae egni adnewyddadwy yn siapio ein byd mewn ffyrdd sy’n dda i ni nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Galli di helpu drwy wneud newidiadau bach gartref, fel defnyddio bylbiau arbed egni, bod yn ymwybodol o wastraffu dŵr a diffodd teclynnau pan nad wyt yn eu defnyddio. Galli hefyd barhau i archwilio a dysgu am dechnolegau gwyrdd newydd a rhannu dy ddarganfyddiadau gyda theulu a ffrindiau.
Cwis
More on Egni a thrafnidiaeth
Find out more by working through a topic
- count3 of 3

- count1 of 3
