Teithio o gwmpas
Mae pobl wastad wedi mentro o un lle i’r llall am wahanol resymau. Gallai hynny fod er mwyn:
- prynu a gwerthu nwyddau
- ymweld ag anwyliaid
- cymudo i’r gwaith
- mynd ar wyliau
Fodd bynnag, gall y dull trafnidiaeth y mae unigolion yn ei ddewis arwain at ganlyniadau sylweddol i’r blaned. Mae opsiynau trafnidiaeth fel ceir, cychod neu awyrennau yn llosgi tanwyddau ffosil fel olew, nwy a glo. Mae hyn yn rhyddhau nwyon tŷ gwydr i’r atmosffer ac, o ganlyniad, yn effeithio ar ein hôl troed carbon.
Fideo: Teithio cynaliadwy
Mae’r awydd i fynd ar antur yn ein gwaed. Mae pobl wastad wedi teithio o un lle i’r llall.
Rydyn ni’n teithio i brynu a gwerthu pethau, i gael gwaith ac i gwrdd â ffrindiau a mwynhau.
Wel, pwy sydd ddim yn caru mynd ar wyliau?
Ond mae’r ffordd rydyn ni’n teithio yn cael effaith ar ein planed.
Mae’r rhan fwyaf o ddulliau teithio, fel ceir, cychod neu awyrennau, yn llosgi tanwyddau ffosil fel olew, nwy a glo.
Mae hyn yn arwain at fwy o nwyon tŷ gwydr yn atmosffer y Ddaear.
Mae nwyon tŷ gwydr yn dal gwers yr haul, hynny yw, egni thermal yr haul, ac yn ei rwystro rhag dianc.
Mae hyn yn arwain at gynhesu byd-eang a newid hinsawdd.
Mae teithio felly’n cyfrannu’n helaeth at allyriadau, neu emissions, nwyon tŷ gwydr y byd.
Mae ein cyfraniad personol ni at yr allyriadau yma’n cael ei alw yn ôl-troed carbon ac mae’n rhywbeth y gallwn ei fesur.
Dychmyga dy fod angen teithio o Gaerdydd i Fangor, dyna bellter o 180 milltir.
Yn 2018, pe bai ti’n hedfan 180 milltir byddai hynny’n cynhyrchu tua 73,000g o garbon deuocsid.
Pe bai ti’n teithio union yr un pellter mewn car, byddai hynny’n cynhyrchu 56,000g o garbon deuocsid sy’n well, ond mae hynny dal yn uchel o’i gymharu â’r arylliadau fyddai’n cael eu cynhyrchu wrth deithio’r un pellter mewn bws.
Byddai hynny’n cynhyrchu 30,000g o garbon deuocsid.
Y drafnidiaeth orau o ran yr amgylchedd fyddai mynd ar drên.
Byddai hynny’n cynhyrchu 12,000g o garbon deuocsid.
Mae trafnidiaeth sy’n gallu cludo llawer o bobl ar yr un pryd fel arfer yn well i’r amgylchedd na sefyllfa lle mae pawb yn teithio yn unigol.
Pan mae mwy o bobl yn teithio gyda’i gilydd, mae’n bosib rhannu cyfanswm yr allyriadau gyda nifer y bobl sy’n teithio.
Mae hynny’n golygu bod ôl-troed carbon pob unigolyn yn llai ond pan fo pawb yn teithio ar wahân, mae’r allyriadau yn uwch.
Y dulliau teithio sydd orau yw’r rhai sydd ddim yn ddibynnol ar injan o gwbl.
Dydy’r rhain ddim yn rhyddhau nwyon tŷ gwydr.
Mae’r dulliau teithio yma hefyd yn cael eu galw’n gludiant actif gan dy fod yn eu pweru dy hun.
Felly, o’u defnyddio, rwyt ti hefyd yn cadw’n heini ac yn teimlo’n iachach o ganlyniad.
Mae gwaith yn cael ei wneud i ddatblygu trafnidiaeth wyrddach gan sawl cyngor a llywodraeth.
Mae Llywodraeth Cymru, er engrhaifft, wedi gwneud addewid i wneud yn siŵr bod pob bws pellter hir yn un sero allyriadau.
Mae mwy o geir trydan na cheir diesel wedi cael eu gwerthu yn Ewrop dros y blynyddoedd diwethaf sy’n wych, gan fod ceir trydan yn cynhyrchu llawer llai o allyriadau niweidiol na cheir diesel, a cheir petrol.
Hefyd, mae’r rheini sydd mewn pŵer yn creu dinasoedd iachach gan drawsnewid llefydd a arferai fod i geir yn unig, yn lefydd i gerddwyr yn unig.
Felly’r tro nesaf rwyt ti’n mynd i rywle, naill ai i’r ysgol neu i weld ffrindiau, neu ar wyliau gyda dy deulu, beth am feddwl am ffyrdd cynaliadwy o deithio?
Ac yn y dyfodol, efallai y bydd sawl ffordd newydd o deithio o un lle i’r llall.
Beth yw ôl troed carbon?
Ôl troed carbon yw’r llwybr carbon deuocsid (CO₂) yr ydym yn ei adael ar ôl wrth inni fyw ein bywydau bob dydd. Cyfanswm y nwyon tŷ gwydr, carbon deuocsid yn bennaf, sy’n cael eu rhyddhau i’r atmosffer oherwydd ein gweithgareddau ni, fel gyrru ceir, defnyddio trydan, neu fwyta rhai bwydydd hyd yn oed.
Pan fyddwn yn defnyddio pethau sy’n cynhyrchu CO₂, rydym yn gadael ôl troed carbon ar ôl, ac mae hyn yn cyfrannu at newid yn yr hinsawdd. Po fwyaf yw ein hôl troed carbon, y mwyaf o effaith a gawn ni ar yr amgylchedd.

Gall y ffactorau canlynol gyfrannu at dy ôl troed carbon:
- Faint o drydan a nwy a ddefnyddi yn dy gartref. Mae hyn yn cynnwys pethau fel gwres a chyfarpar eraill.
- Nifer y milltiroedd rwy ti’n eu teithio mewn car, awyren neu ar drafnidiaeth gyhoeddus.
- Y math o fwyd rwyt ti’n ei fwyta ac o ble mae’n dod.
- Faint o wastraff rwyt ti’n ei gynhyrchu a sut rwyt ti’n cael gwared ag ef.
- Y cynnyrch rwyt ti’n eu prynu ac o ble maen nhw’n dod.
Teithio a nwyon tŷ gwydr
Mae teithio mewn cerbydau fel ceir neu awyrennau yn llosgi tanwydd fel nwy neu ddiesel, gan ryddhau nwyon tŷ gwydr i'r aer.

Mae’r nwyon hyn yn dal gwres o’r haul, gan achosi i’r dymheredd godi ac i’r hinsawdd newid. Mae hyn yn effeithio ar ein ecosystemauCymuned o bethau byw sydd i gyd yn gysylltiedig â’i gilydd, ac yn dibynnu ar ei gilydd. a’u hamgylchoedd, gan arwain at y canlyniadau posibl canlynol:
- Mae digwyddiadau tywydd eithafol yn dod yn fwy aml a difrifol, er enghraifft, stormydd a chorwyntoedd.
- Mae’r capiau iâ ym mhegwn y gogledd a’r de yn dal i doddi, ac o ganlyniad, mae lefelau’r môr yn parhau i godi.
- Mae cynefinoedd yn dal i gael eu dinistrio wrth echdynnu tanwyddau ffosil. Mae cloddio am lo, olew a nwy yn aml yn gofyn am glirio tir a all arwain at datgoedwigo Tynnu coed. Gwneir hyn weithiau fel y gellir defnyddio'r tir ar gyfer rhywbeth arall. a cholli bioamrywiaethYr amrywiaeth o wahanol blanhigion ac anifeiliaid mewn ardal..
- Wrth i’r tymheredd godi, mae rhanbarthau fel y Sahel, sydd eisoes yn profi hinsawdd poeth oherwydd eu bod yn agos at y cyhydedd, yn cynhesu hyd yn oed yn fwy. Gall hyn arwain at ehangu ardaloedd o anialwch fel y Sahara i’r Sahel, proses a elwir yn diffeithdiroPan fydd tir ffrwythlon yn mynd yn anialwch..
Gweithgaredd: Sut mae teithio yn cyfrannu at newid yn yr hinsawdd?
Fideo: Teithio cynaliadwy ar waith
Oeddet ti'n gwbod mai teithio oedd yn gyfrifol am tua 20% o holl allyriadau nwyon tŷ gwydr y byd yn 2020?
Mae mwy na 8 biliwn o bobl yn y byd ac mae'r rhan fwyaf ohonom yn teithio o leiaf unwaith y dydd.
Felly sut allwn ni fynd o le i le ac edrych ar ôl y blaned ar yr un pryd?
Mae rhai dulliau teithio'n garbon niwtral.
Mae eraill yn creu allyriadau nwyon tŷ gwydr sydd yn cyfrannu at waethygu newid hinsawdd.
Mae cludiant ti'n hunanbweru dy hun, cerdded, seiclo neu sglefrfyrddio er enghraifft, yn garbon niwtral.
Mae'n nhw'n cael eu galw'n gludiant actif, ffordd wych o gadw'n iach hefyd.
Ond mae'r rhan fwyaf o ddulliau teithio sy'n dibynnu ar injan yn rhyddhau nwyon tŷ gwydr i'r atmosffer.
Mae nwyon tŷ gwydr yn atal gwrês yr haul rhag dianc, sy'n arwain at newid hinsawdd.
Mae'r llygredd sy'n cael ei greu gan awyrenau yn ran sylweddol o'r nwyon tŷ gwydr sy'n cael eu ryddau'n fyd eang.
Felly os wyt ti'n ystyried teithio mewn awyren meddylia tybed oes 'na ffordd arall gellet ti deithio.
Mae teithio gyda rhywun arall yn fwy cynaladwy – teithio ar fws, neu dren.
Neu beth am drefnu lifft gyda phobl ti'n nabod?
Yng Nghymru un o'r ffyrdd mwya cynaladwy i deithio yw ar fws.
Mae'r effaith amgylcheddol yn isel, ac mae bysiau yn gallu cario llawer o bobl ar yr un pryd, gan leihau ôl troed carbon pawb.
Felly efallai tro nesaf y byddi di'n cynllunio trip gyda chriw o boblgallwch chi drafod yr opsiynau cynaladwy.
Beth am ystyried teithio ar fws?
Neu ddewis i ymweld â rywle lleol?
Mae twristiaeth leol, sef ymweld ag ardaloedd lleol, yn fwy cynaladwy ac yn helpu i gefnogi pobol a busnesau lleol.
Fe elli di gysylltu gyda arweinwyr lleol i ofyn iddyn nhw helpu gwneud teithio yn dy ardal di yn fwy cynaliadwy.
Gyda dy ffrindie allet ti feddwl am ffyrdd o annog fwy o bobl i ddewis teithiau cynaliadwy?
Gallet ti ofyn i'r ysgol ei wneud yn haws i ddisgyblion gyrraedd ar feic trwy gael gwell ardal i storio'u beiciau a lle i gadw offer a chotiau glaw.
Felly cymer amser i feddwl a thrafod, yna cer amdani!
Teithio’n fwy cynaliadwy
Mae teithio’n fwy cynaliadwy yn golygu cymryd rhan mewn teithio llesol neu ddewis dulliau trafnidiaeth ecogyfeillgarWedi’i lunio i gael ychydig neu ddim effaith niweidiol ar yr amgylchedd..
Teithio llesol
Symud o un lle i’r llall gan ddefnyddio gweithgarwch corfforol, fel cerdded, beicio neu fynd ar sgwter, yn lle defnyddio cerbydau fel ceir neu fysiau.
Trafnidiaeth ecogyfeillgar
Gall hyn gynnwys amrywiaeth o arferion a thechnolegau sydd â’r nod o leihau’r effaith ar yr amgylchedd, fel defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, rhannu ceir neu ddefnyddio cerbydau trydan. Nid yw trafnidiaeth ecogyfeillgar yn cyfeirio’n benodol at ddulliau teithio sy’n cael eu pweru gan ymdrech ddynol.
Cerbydau trydan ac e-feiciau
Mae cerbydau trydan neu hybrid yn rhedeg ar drydan, sydd weithiau’n dod o ffynonellau adnewyddadwy fel egni'r haul neu egni'r gwynt. Mae hyn yn eu gwneud yn well i’r amgylchedd gan ei fod yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr niweidiol a llygredd aer. Ceir hybrid sy’n cyfuno moduron trydan ag injan betrol, gan ddefnyddio llai o danwydd a rhyddhau llai o lygryddion. Gall bysiau a threnau hefyd gael eu pweru gan drydan neu danwyddau glanach eraill.
Mae e-feiciau yn gynaliadwy oherwydd eu bod yn defnyddio trydan sy’n lanach na phetrol neu ddiesel. Maen nhw’n cynhyrchu llai o allyriadau, gan helpu i leihau llygredd aer a nwyon tŷ gwydr.
Gweithgaredd: Dewisiadau teithio cynaliadwy
Gwyliau cynaliadwy
Bob blwyddyn, mae llawer o bobl yn dewis mynd ar wyliau, ac mae sawl ffordd o wneud taith oddi cartref yn fwy cynaliadwy. Er enghraifft:
Defnyddio dulliau trafnidiaeth cynaliadwy i gyrraedd cyrchfan. Er enghraifft, trenau, bysiau, neu fathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus.
Pan fydd angen hedfan, gall dewis hedfan yn uniongyrchol, os yw’n bosibl, ryddhau llai o nwyon tŷ gwydr y filltir.
Mynd ar wyliau i gyrchfannau lleol neu ranbarthau cyfagos yn hytrach na theithio’n bell.
Ymarfer arbed dŵr ac egni drwy ailddefnyddio tywelion a dillad gwely a diffodd goleuadau ac electroneg pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.
Gall lleihau pwysau bagiau drwy bacio’r hanfodion yn unig leihau faint o danwydd sy’n cael ei ddefnyddio a’i allyriadau, yn enwedig yn ystod hediadau pellter hir neu yriannau.
Cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored sy’n cael effaith fach ar yr amgylchedd, fel cerdded, beicio neu wylio bywyd gwyllt.
Cwis
More on Egni a thrafnidiaeth
Find out more by working through a topic
- count1 of 3

- count2 of 3
