Newid hinsawdd a'r effaith tŷ gwydr
Mae ymchwil yn dangos bod newid hinsawdd wedi bod yn digwydd ers dros 3 miliwn o flynyddoedd a bod y Ddaear wedi wynebu newidiadau dramatig i'w hinsawdd - yn amrywio o oes yr iâ i gyfnodau o gynhesu sylweddol.
Ers y 1850au a’r Chwyldro DiwydiannolY broses a newidiodd gweithgynhyrchu o wneud nwyddau gyda llaw i gynhyrchu a masgynhyrchu drwy ddefnyddio pŵer dŵr, stêm a glo a’u cludo ar gamlesi, rheilffyrdd a llongau stêm. , mae’r tymheredd cyfartalog byd-eang wedi bod yn codi. Mae llawer yn credu bod hyn oherwydd gweithgarwch dynol a'r defnydd cynyddol o dechnoleg a llosgi tanwyddau ffosil i gynhyrchu egni.
Mae newid hinsawdd yn cael ei sbarduno gan broses o’r enw yr effaith tŷ gwydr. Dyma lle mae gwres yn cael ei ddal o fewn ein hatmosffer gan nwyon sy'n cael eu cynhyrchu’n naturiol o’r enw nwyon tŷ gwydrY nwyon sy’n gyfrifol am gynhesu byd-eang – carbon deuocsid, methan, ocsid nitrus ac CFCau (clorofflworogarbonau).. Heb yr effaith tŷ gwydr, ni fyddai'r gwres yn cael ei ddal a byddai tymheredd y Ddaear yn gostwng i -50°C.
Serch hynny, mae gweithgarwch dynol erbyn hyn wedi arwain at yr hyn sy’n cael ei alw’n effaith tŷ gwydr uwch. Drwy losgi mwy o danwyddau ffosil a chlirio mwy o dir i’w ddefnyddio ar gyfer pethau fel amaethyddiaeth, rydyn ni’n dal i ychwanegu mwy a mwy o’r nwyon tŷ gwydr hyn i’r atmosffer.
O ganlyniad, mae mwy o wres yn cael ei ddal ac mae’r Ddaear yn cynhesu. Yn ôl yr IPPCIntergovernmental Panel on Climate Change. Corff rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig sy'n asesu'r wyddoniaeth sy'n ymwneud â newid hinsawdd. (Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd), ers 1970, mae’r tymheredd cyfartalog byd-eang wedi bod yn codi ar raddfa o 1.7°C fesul canrif. Gall y newid hwn yn unig gael effaith aruthrol ar gymunedau bregus ledled y byd.
Achosion naturiol newid hinsawdd

Image caption, Newidiadau orbital – mae gan y Ddaear gyfnodau o gynhesu ac oeri naturiol sy’n cael eu hachosi gan gylchredau Milankovitch neu amrywiadau yng ngogwydd a/neu orbit y Ddaear o amgylch yr Haul (Damcaniaeth siglad, rholiad ac estyniad).

Image caption, Gweithgaredd folcanig – yn ystod echdoriad folcanig, mae carbon deuocsid yn cael ei ryddhau i’r atmosffer.

Image caption, Allbwn solar - gall pelydriad yr haul amrywio. Os yw’r swm sy’n cael ei allyru yn uchel, bydd tymheredd y Ddaear yn codi.
1 of 3
Achosion dynol newid hinsawdd

Image caption, Llosgi tanwyddau ffosil, er enghraifft glo, nwy ac olew – mae’r rhain yn rhyddhau carbon deuocsid i’r atmosffer.

Image caption, Datgoedwigo – mae coed yn amsugno carbon deuocsid yn ystod ffotosynthesis. Os oes llai o goed, bydd lefelau uwch o garbon deuocsid yn yr atmosffer.

Image caption, Dympio gwastraff mewn safleoedd tirlenwi – pan mae’r gwastraff yn dadelfennu, mae’n cynhyrchu methan.

Image caption, Amaethyddiaeth - mae arferion amaethyddol yn achosi i ocsid nitrus gael ei ryddhau i'r atmosffer.
1 of 4
Effeithiau newid hinsawdd
Rydyn ni’n dechrau gweld effeithiau anferthol newid hinsawdd ar draws y byd, gyda chynnydd mewn sychder, stormydd, lefelau’r môr yn codi a’r cefnforoedd yn cynhesu. Mae’r digwyddiadau hyn yn bygwth cymunedau a chynefinoedd, gan beryglu’r rheini sy’n byw yno.
Maldives
Un enghraifft lle mae newid hinsawdd yn cael effaith yw’r Maldives. Mae'r wlad hon, yng Nghefnfor India, yn cynnwys cadwynau o ynysoedd neu atolYnys siâp cylch wedi ei gwneud o gwrel. (250 ohonyn nhw lle mae pobl yn byw).
Mae'r ynysoedd a'r atolau i gyd yn fach, yn wastad ac yn boblog iawn gyda'r pwynt uchaf 2.4m uwchben lefel y môr. Gyda'r cynnydd yn nhymheredd y cefnfor, mae'r Maldives yn cael eu bygwth fwyfwy gan stormydd ffyrnig.
Mae newid hinsawdd hefyd yn bygwth bodolaeth y Maldives, ac mae disgwyl i lefelau’r môr godi rhwng 10 i 100 centimetr erbyn 2100. Mae Malé, y brifddinas, o dan fygythiad arbennig oherwydd ei bod wedi'i lleoli ar atol fechan, wastad, hynod o boblog sydd wedi'i hamgylchynu gan forgloddiau a rhwystrau eraill i’w hamddiffyn rhag stormydd. Mae hyn yn golygu na all Malé newid ei siâp wrth ymateb i'r cynnydd yn lefel y môr, ac felly'n dibynnu ar atebion peirianyddol drud.

Cymru
Mae effaith newid hinsawdd yn cael ei theimlo yng Nghymru hefyd. Oherwydd bod tymereddau’n codi, mae cynefinoedd yn cael eu heffeithio gan fwy o donnau gwres rheolaidd a mwy o law oherwydd stormydd. Mae’r rhain yn effeithio ar y planhigion a’r bywyd gwyllt lleol.
Mae cynnydd yn lefel y môr, yn ogystal â stormydd mwy dwys a rheolaidd, yn cynyddu’r perygl o lifogydd a difrod mewn trefi arfordirol fel Aberystwyth.
Mae ffermwyr yn wynebu heriau hefyd. Mae’n argoeli y bydd Cymru yn wynebu mwy o law, tymereddau cynhesach a stormydd mwy ffyrnig yn y dyfodol a bydd hyn yn ei gwneud hi'n anoddach rheoli cnydau’n effeithiol ac i wneud bywoliaeth.
Gwylio: Fideo Hinsawdd sy'n newid
Gwylia’r clip byr yma i ddeall mwy am achosion naturiol a dynol newid hinsawdd.
Mae’n ddrwg gen i ddweud hyn, ond mae’r hinsawdd yn newid. Yn gyflym.
Mae’r hinsawdd wedi newid yn naturiol erioed, wrth gwrs. Mae newidiadau yng nghylchdro’r ddaear - o’r enw cylchredau Milankovich - ffrwydradau folcanaidd, a llanw newidiol i gyd yn medru newid hinsawdd ein planed yn fawr.
Ond beth am newid hinsawdd anthropogenig - wedi ei achosi gan ddyn? Gan nad y’n ni wedi bod o gwmpas yn hir iawn, mae hyn yn amlwg yn broses llawer mwy newydd… ac yn digwydd yn llawer cyflymach.
Mae’r crynodiad o garbon deuocsid yn yr atmosffer bellach yn uwch na phedwar can rhan y filiwn am y tro cynta.
Mae newid hinsawdd yn cael effeithiau sylweddol ar bob cornel o’r byd. Gan gynnwys… Cymru.
Dyma Fairbourne. Cafodd ei adeiladu yn hwyr yn y 19fed ganrif fel cyrchfan glan môr. Ffynnodd ar brydiau yn ystod yr 20fed ganrif. Ond bellach, yn yr 21ain ganrif, mae’n diflannu. Yn cael ei lyncu gan y tonnau.
Mae Fairbourne wedi ei amddiffyn rhag y llanw erioed. Ond mae’r amddiffynfeydd yn methu. Ar ryw bwynt yn ystod y 2050au, mae’n debyg, bydd rhaid i bawb adael Fairbourne, wrth iddo gyrraedd cyflwr o’r enw “cilio rheoledig”.
Mae’n debyg mai dyma fydd y lle cynta yn y Deyrnas Unedig i gael ei ddinistrio’n llwyr oherwydd fod yr hinsawdd yn newid. Mae’n annhebyg mai Fairbourne fydd y lle ola. Er hynny, mae pethau’n gymharol dawel yng Nghymru o gymharu â llefydd eraill yn y byd.
Yn Awstralia, mae’r tymheredd uchel a sychder estynedig wedi achosi cynnydd anferth mewn tanau gwylltir… gan ddinistrio cynefin llawer o fywyd gwyllt brodorol y wlad, am byth o bosib. Oherwydd hyn, mae rhai yn honni bod gwell siawns gan y coala i oroesi mewn caethiwed yn hytrach nac yn wyllt.
I’r gogledd-ddwyrain o Awstralia, mae rhai o Ynysoedd Solomon yn diflannu o dan y tonnau’n barod, fel mae Fairbourne yn debyg o wneud yn y dyfodol.
Mae mosgitos, sydd fel arfer yn Affrica, canolbarth America, a de Asia, yn mudo oherwydd yr hinsawdd cynhesach. Maen nhw’n teithio ymhellach i’r de ac i’r gogledd, ac yn dod ag amrywiaeth o afiechydon heintus gyda nhw. Hyfryd. Ond rydyn ni yn brwydro yn ôl. Wir.
Yn 2015, galwodd y Pâb Francis ar Gatholigion, Cristnogion, a phawb o ewyllys da, i edrych ar ôl y byd - sef creadigaeth Duw i lawer o bobl o ffydd. Yn wir, mae nifer o grefyddau yn ystyried amddiffyn y blaned rhag newid hinsawdd fel dyletswydd sanctaidd yn hytrach na dewis. Gan ein rhoi ni yn sedd y gyrrwr - neu’r beiciwr, yn hytrach - fel stiwardiaid y Ddaear.
Mae pobl ifanc yn fwy ymwybodol na neb o’r bygythiad i’r blaned, ac yn newid eu ffordd o fyw, o weithred fach fel ailddefnyddio bagiau, i un fawr fel mynd ar streic hinsawdd.
Yng Nghymru, mae’r defnydd o egni adnewyddadwy yn cynyddu’n gyson. Mae mesurau yn eu lle i leihau’r defnydd o geir mewn dinasoedd fel Caerdydd. Erbyn y flwyddyn 2050, y gobaith yw y bydd o leiaf 80% yn llai o lygredd yn dod o Gymru.
Felly ydi. Mae’r hinsawdd yn newid. Yn gyflym.
A’r newyddion da? Ry’n ni’n newid gyda fe
Delio â newid hinsawdd
Mae delio â newid hinsawdd wedi dod yn fater sylfaenol sydd wedi’i amlygu gan wyddonwyr ac ymgyrchwyr ledled y byd. Un o'r ffyrdd allweddol y gallwn reoli newid hinsawdd yw lleihau faint o danwyddau ffosil rydyn ni’n dibynnu arnyn nhw. Mae datblygiadau diweddar wedi caniatáu i ni ddefnyddio ffynonellau egni adnewyddadwy i leihau faint o danwyddau ffosil sy’n cael eu llosgi.
Mae gwahanol fathau o egni adnewyddadwy.
- Egni dŵr – mae dŵr yn cael ei ddefnyddio i yrru tyrbinau mewn sawl ffordd gan gynnwys tonnau, y llanw a dŵr sy’n disgyn mewn cynlluniau pŵer trydan dŵr.
- Egni solar – mae egni o’r Haul yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu trydan a dŵr poeth.
- Egni gwynt – mae gwynt yn troi tyrbinau i gynhyrchu trydan.
- Egni geothermol – mae gwres naturiol y Ddaear yn cael ei ddefnyddio i wresogi cartrefi neu gynhyrchu trydan.
Ym mis Mawrth 2021, cymeradwyodd Senedd Cymru darged o allyriadau sero net erbyn 2050. Mae hyn yn golygu cydbwyso'r allyriadau nwyon tŷ gwydr â faint o nwyon sy'n cael eu tynnu o'r atmosffer.
Mae nifer o nodau wedi'u gosod i gyflawni hyn. Rhaid i 43,000 hectar o goetir gael ei blannu erbyn 2030, gan gynyddu i 180,000 hectar erbyn 2050. Bydd hyn yn chwarae rhan allweddol wrth dynnu CO₂ o’r atmosffer.
Mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu gwahardd gwerthu ceir petrol a diesel newydd erbyn 2030. Byddan nhw’n buddsoddi £500 miliwn mewn mannau gwefru i geir trydan ac ariannu ymchwil i dechnoleg batris.

More on Newid a symud
Find out more by working through a topic
- count1 of 3

- count2 of 3
