Globaleiddio

Part ofDyniaethau - DaearyddiaethNewid a symud

Beth yw globaleiddio?

Globaleiddio yw’r ffordd y mae’r byd wedi dod yn fwy cydgysylltiedig. Mae’n cynnwys sut mae pobl yn cyfathrebu yn ogystal â masnach byd-eang, buddsoddi rhyngwladol a rhannu syniadau.

Efallai ei bod hi’n rhyfedd meddwl bod ein byd yn mynd yn llai. Nid o ran maint y Ddaear ond yn y ffordd rydyn ni’n rhyngweithio â'n gilydd. Mae hyn oherwydd globaleiddio.

Canlyniad hyn yw bod pobl, cwmnïau a llywodraethau ledled y byd yn dod yn fwy ac yn fwy rhyngwladol.

Dros y blynyddoedd rydyn ni wedi gallu cyfathrebu a theithio’n llawer cyflymach nac yn y gorffennol. Yn yr 1800au, roedd hi’n cymryd dyddiau neu wythnosau i lythyr gyrraedd pen ei daith.

Y dyddiau hyn, dim ond ychydig eiliadau mae'n ei gymryd i godi’r ffôn, anfon neges destun neu ebostio rhywun ym mhen draw’r byd.

Mae gwreiddiau globaleiddio yn yr Oesoedd Canol. Roedd gwladychu a fforio yn golygu bod syniadau, diwylliannau a thechnolegau yn cael eu rhannu o un wlad i'r llall.

Yn ddiweddar, mae’r broses hon wedi cyflymu oherwydd datblygiadau mewn technolegau cyfathrebu a thrafnidiaeth.

Erbyn hyn, mae'n anodd dychmygu byw mewn gwlad lle nad yw'r byd ehangach yn dylanwadu arni. Mae hyn yn gallu cynnwys y bwyd rydyn ni'n ei fwyta, y gerddoriaeth rydyn ni'n gwrando arni neu'r dillad rydyn ni'n eu gwisgo.

Gwylio: Fideo Globaleiddio

Gwylia’r clip byr hwn ynglŷn ag effaith globaleiddio ar Gymru a’r byd.

Ffactorau sydd wedi effeithio ar globaleiddio

Datblygiadau mewn technoleg

Mae datblygiadau mewn technoleg wedi cyfrannu at globaleiddio. Mae technolegau newydd wedi ysgogi cwmnïau i fod hyd yn oed yn fwy byd-eang ac wedi gwneud y broses o gysylltu ar draws y byd yn llawer haws.

  • Trafnidiaeth

Mae'r ffordd rydyn ni’n teithio wedi datblygu'n sylweddol ers y 19eg ganrif. Mae dyfodiad y peiriant tanio mewnol, y rheilffyrdd ac awyrennau yn golygu ei bod hi’n bosib teithio o un wlad i'r llall yn llawer iawn cyflymach nac y byddai wedi cymryd yn yr 17eg ganrif. Bryd hynny roedd pobl yn dibynnu ar geffylau neu longau i deithio gan fwyaf. Fe wnaeth dyfeisio’r injan betrol arwain at ddefnyddio ceir, bysiau a lorïau ac adeiladu rhwydweithiau priffyrdd enfawr.

Mae datblygiadau ym maes hedfan yn golygu ei bod hi’n bosib symud nifer fawr o deithwyr a llawer o nwyddau dros bellteroedd maith yn llawer cyflymach.

Mae technolegau mwy newydd wedi ei gwneud hi’n bosib awtomeiddio’r broses o gludo nwyddau. Mae defnyddio dronau a llongau sydd yn hawdd eu llwytho a’u dadlwytho yn torri costau gweithredu sydd yn fantais i fusnesau.

Image gallerySkip image gallerySlide1 of 6, Llinell amser yn dangos y datblygiadau mewn trafnidiaeth dros yr ychydig ganrifoedd diwethaf - 1. Cart â cheffyl., Mae ceffyl a chart wedi chwarae rhan yn ein hanes ers dyfeisio'r olwyn. Mae cerbydau a ddefnyddiwyd fel ffordd o deithio yn dyddio nôl cyn belled â'r Eifftiaid a gwelwyd mai dyma’r ffordd orau o symud nwyddau am ganrifoedd.
Defnyddir llongau cynhwysydd i gludo nwyddau masnach ledled y byd.

Un o’r pethau wnaeth fwyaf i hybu globaleiddio oedd cyflwyno llongau cynwysyddion yn y 1950au. Maen nhw’n gwneud gwneud cludo nwyddau swmpus yn hawdd ac yn gyflym.

Mae defnyddio cynwysyddion i gludo nwyddau yn golygu bod posib eu trin unrhyw le yn y byd gyda llongau, lorïau a chraeniau arbenigol. Mae hyn yn caniatáu i gyflenwyr symud eu nwyddau yn gyflymach ac yn fwy effeithlon o gefn lorïau i longau.

Mae'r newidiadau hyn, a gweithredu ar raddfa fawr, wedi lleihau costau cludo nwyddau i lawer o gyflenwyr. Mae hyn yn golygu ei bod yn llawer haws cael mynediad at y farchnad fyd-eang ac i allforio iddi.

Ond mae maint llongau cynwysyddion hefyd wedi achosi problemau. Yn ystod y 1960au, gwelodd ardal Dociau Llundain ddirywiad sylweddol gan nad oedd lle i’r llongau mwy o faint ar Afon Tafwys. O ganlyniad, symudodd masnach i ddociau dwfn fel Dover a Felixstowe.

Defnyddir llongau cynhwysydd i gludo nwyddau masnach ledled y byd.
  • Cyfathrebu

Mae technolegau cyfathrebu wedi datblygu’n hynod o gyflym yn yr 21ain ganrif. Mae hyn wedi gyrru globaleiddio ac wedi chwalu rhwystrau gwleidyddol a diwylliannol.

  • Mae’r rhyngrwyd yn galluogi pobl a busnesau i gyfathrebu ar unwaith.
  • Mae cyfathrebu trwy loeren yn ei gwneud hi’n bosib i gael trosolwg byd-eang ac i allu cyfathrebu hyd yn oed mewn ardaloedd diarffordd. Maen nhw’n ei gwneud hi’n bosib gwylio’r teledu a defnyddio ffonau.
  • Mae ffonau symudol yn ei gwneud hi’n bosib cyfathrebu ac i gael mynediad i’r rhyngrwyd lle bynnag rydych chi.
  • Mae cyfryngau cymdeithasol yn rhoi pobl o gwmpas y byd mewn cysylltiad â’i gilydd.

Mae’r datblygiadau technolegol hyn yn golygu bod cwmnïau trawswladol (Transnational corporations - TNCs) wedi gallu datblygu mewn gwledydd ledled y byd ac ei bod hi’n bosib monitro hyn o un pencadlys mewn gwlad fwy datblygiedig. Mae'r gostyngiad mewn amser cyfathrebu yn golygu bod cwmnïau yn gallu gweithio hyd yn oed yn fwy effeithlon a lleihau eu costau.

Penderfyniadau llywodraethau

Mae penderfyniadau llywodraethau yn gallu cael effaith fawr ar rôl globaleiddio.

Fe wnaeth diwygiadau’r llywodraeth yn India yn ystod y 1990au newid y ffordd roedd hi’n gweithredu fel gwlad. Roedd y newidiadau hyn yn gwneud llawer mwy o fuddsoddiad tramor yn India yn bosib. O ganlyniad, gwelwyd cynnydd yn nifer y cwmnïau trawswladol a oedd yn symud yno i ddatblygu. Ers y newid hwn, mae India yn cael ei ystyried fel un o’r gwledydd mwyaf blaenllaw ar y farchnad fyd-eang y tu ôl i China.

Mae ffurfio partneriaethau â gwledydd eraill yn ei gwneud hi'n llawer haws masnachu ac i leihau costau. Mae’r Undeb Ewropeaidd yn enghraifft o gytundeb o’r fath. Mae ganddo bolisïau sy'n anelu at sicrhau symudiad rhydd pobl, nwyddau a gwasanaethau yn ei aelod-wledydd sy'n hyrwyddo globaleiddio.

Effeithiau globaleiddio

Mae globaleiddio wedi siapio ein diwylliannau a’n hunaniaethau yn gymdeithasau homogenaidd a heterogenaidd.

Cymdeithas heterogenaidd

Mae Cymdeithas heterogenaidd yn cynnwys amrywiaeth eang o grefyddau, hiliau, diwylliannau, credoau a hyd yn oed diddordebau amser hamdden gwahanol fel sydd yng Nghymru.

Cymdeithas homogenaidd

Dyma gymdeithas lle mae llai o amrywiaeth, ee mewn diwylliannau a chredoau ac yn y nifer o ieithoedd sy’n cael eu siarad. Gall hyn hyd yn oed ymwneud â'r ffilmiau rydych chi'n eu gwylio neu'r bwyd rydych chi'n ei fwyta, wrth i ni ddechrau gweld yr un mathau o siopau a thueddiadau yn dod i'r amlwg mewn ardaloedd ar draws y byd.

Diagram i ddangos y gwahaniaeth rhwng cymdeithas heterogenaidd a chymdeithas homogenaidd.

Mae globaleiddio yn gallu bod yn beth positif ac yn rhywbeth negyddol.

Effeithiau positif

  • Gall cwmnïau trawswladol sy’n datblygu mewn gwledydd incwm is helpu i wella’r economi a chynnig swyddi a sgiliau newydd.
  • Mae’n llawer haws cysylltu â gweddill y byd a chael y wybodaeth ddiweddaraf am newyddion a digwyddiadau tramor.
  • Mae pobl yn gallu profi gwledydd a diwylliannau newydd o amgylch y byd oherwydd y cyfryngau a gwell trafnidiaeth.
  • Rydyn ni’n gallu prynu cynnyrch o dramor yn llawer rhatach.
  • Gall gwledydd rannu syniadau a helpu ei gilydd i ddatblygu technolegau newydd.

Effeithiau negyddol

  • Gall cwmnïau trawswladol ecsbloetio adnoddau gwledydd tlotach. Mewn rhai achosion mae pobl yn derbyn cyflog isel neu'n cael eu gorfodi i weithio o dan amodau anghyfreithlon.
  • Mae busnesau bach yn cael eu gorfodi i gau oherwydd y gystadleuaeth oddi wrth siopau cadwyn byd-eang.
  • Bygythiad i amrywiaeth – mae trefi a dinasoedd yn dod yn fwy ac yn fwy tebyg, bron iawn fel clonau o’i gilydd.
  • Llawer iawn o lygredd yn cael ei greu wrth deithio mewn awyrennau a symud nwyddau ar longau a lorïau.
  • Gall afiechydon fel Covid-19 ledaenu o un wlad i'r llall yn llawer haws gan bod cymaint o bobl a nwyddau yn symud o amgylch y byd.

More on Newid a symud

Find out more by working through a topic