Beth yw rhifau negyddol?
Mae rhifau negyddol yn cael eu defnyddio mewn sawl sefyllfa.
Fel gyda'r tymheredd.
Dyw rhifau ddim yn stopio ar ddim.
Pan wyt ti'n cyfri yn ôl o sero, rwyt ti'n dechrau defnyddio rhifau negyddol.
A nawr mae'r tymheredd yn minws un deg pump gradd Celsiws.
Beth am i ni gynhesu rhywfaint arnoch chi?
Mae defnyddio thermomedr i drefnu rhifau yn ffordd rwydd o weld bod minws 15 yn rhif is na minws pump achos ei fod e'n is lawr y llinell.
A gan bod y ddau ohonyn nhw o dan sero, mae nhw'n rhifau negyddol.
Mae rhifau negyddol hefyd i'w gweld mewn adeiladau pan wyt ti'n mynd o dan lefel y ddaear.
Minws deg, dyna ddeg llawr o dan lefel y ddaear.
Ffiw! Na chi lwc!
Llai na sero / Less than zero
Dydy rhifau ddim yn dod i ben ar sero. Wrth rifo cam yn ôl o sero, rwyt ti’n mynd i rifau negyddol.
Rhifau positif yw rhifau mwy na sero: 1, 2, 3, 4, 5, ac ati.
Rhifau negyddol yw rhifau llai na sero: -1, -2, -3, -4, -5, ac ati.
More on Rhif
Find out more by working through a topic
- count4 of 16

- count5 of 16

- count6 of 16

- count7 of 16
