Sut i dalgrynnu rhifau
Shwmae Albert, waw!
Ma hynna'n lot o losin. Be ma Jerry'n ei wneud?
A! Labelu pob jar gyda'r nifer o losin.
Ond sut wyt ti'n gwybod faint o losin sydd ym mhob jar?
O waw, gwych!
Ond gyda rhywbeth fel hyn does dim rhaid bod yn union gywir.
Gelli di dalgrynnu'r rhif i roi syniad bras o faint sydd ym mhob jar.
Hyfryd. Mae talgrynnu rhifau yn rhoi syniad cyffredinol o beth allai'r cyfanswm fod.
Mae'n gallu gwneud y rhif yn haws i'w ddeall ac yn gyflymach i'w ddweud.
I dalgrynnu rhif i'r 10 agosaf, drycha ar yr unedau.
Ie, dyna'r un Jerry.
Os yw'r rhif yn gorffen gyda 5 neu fwy, talgrynna i fyny.
Mae 156 yn cael ei dalgrynnu fyny i 160.
Ond os yw'n 4 neu lai, yna talgrynna i lawr.
I dalgrynnu rhif i'r 100 agosaf, edrycha ar ddigid y degau a dilyna yr un rheol.
5 neu'n fwy, talgrynna i fyny.
4 neu lai. Talgrynna i lawr.
Mae'r un rheolau i'w dilyn os wyt ti eisiau talgrynnu i'r 1000 agosaf, rhaid edrych ar ddigid y cannoedd a thalgrynnu i fyny neu i lawr.
Syniad da Jerry. Dw i'n credu bod Albert 'di cael llond bol!
Talgrynnu i’r 10 agosaf / Rounding to the nearest 10
I dalgrynnu rhif i’r 10 agosaf, edrycha ar ddigid yr unedau. Os yw digid yr unedau’n 5 neu fwy, talgrynna i fyny. Os yw digid yr unedau’n 4 neu lai, talgrynna i lawr.
- Y digid olaf yn 356 yw 6. Felly caiff ei dalgrynnu i fyny i 360.
- Y digid olaf yn 352 yw 2. Felly caiff ei dalgrynnu i lawr i 350.
- 5 yw digid olaf 475. Bydd 5 bob amser yn cael ei dalgrynnu i fyny. Felly mae 475 yn talgrynnu i fyny i 480.
To round numbers to the nearest 10, look at the digit of the units. If the digit of the units is 5 or more, round up. If the digit of the units is 4 or less, round down.
- The last digit in 356 is 6. So it's rounded up to 360.
- The last digit in 352 is 2. So it's rounded down to 350.
- 5 is the last digit of 475. 5 is always rounded up. So 475 is rounded up to 480.

Talgrynnu i’r 100 agosaf / Rounding to the nearest 100
I dalgrynnu rhif i’r 100 agosaf, edrycha ar ddigid y degau. Os yw digid y degau’n 5 neu fwy, talgrynna i fyny. Os yw digid y degau’n 4 neu lai, talgrynna i lawr.
- 8 yw digid y degau yn 3281. Felly caiff ei dalgrynnu i fyny i 3300.
- 1 yw digid y degau yn 3216. Felly caiff ei dalgrynnu i lawr i 3200.
To round a number to the nearest 100, look at the digit of the tens. If the digit of the tens is 5 or more, round up. If the digit of the tens is 4 or less, round down.
- 8 is the digit of the tens in 3281. So it's rounded up to 3300.
- 1 is the digit of the tens in 3216. So it's rounded down to 3200.

Talgrynnu i’r 1000 agosaf / Rounding to the nearest 1000
I dalgrynnu rhif i’r 1000 agosaf, edrycha ar ddigid y cannoedd. Os yw digid y cannoedd yn 5 neu fwy, talgrynna i fyny. Os yw digid y cannoedd yn 4 neu lai, talgrynna i lawr.
- 5 yw digid y cannoedd yn 4559. Felly caiff ei dalgrynnu i fyny i 5000.
- 2 yw digid y cannoedd yn 4295. Felly caiff ei dalgrynnu i lawr i 4000.
To round a number to the nearest 1000, look at the digit of the hundreds. If the digit of the hundreds is 5 or more, round up. If the digit of the hundreds is 4 or less, round down.
- 5 is the digit of the hundreds in 4559. So it's rounded up to 5000.
- 2 is the digit of the hundreds in 4295. So it's rounded down to 4000.
More on Rhif
Find out more by working through a topic
- count6 of 16

- count7 of 16

- count8 of 16

- count9 of 16
