Beth yw ffactorau?
Mae ffactorau yn rhannu mewn i rifau eraill yn union, heb unrhyw beth yn weddill.
Cymer yr wyth morgrugyn blasus yma.
Gallant gael eu rhannu yn un grŵp o wyth.
A gallwn hefyd rannu wyth yn ddau grŵp o bedwar, a phedwar grŵp o ddau.
Felly ffactorau wyth yw un, dau, pedwar ag wyth.
Ond os yw'r morgrug eisiau treulio amser mewn trioedd bydd e'n achosi problemau.
Gwnaiff wyth ddim rhannu mewn i dri grŵp yn union.
Mae na rai yn weddill bob tro.
Felly dyw tri ddim yn ffactor o wyth.
Dwi ddim yn credu bod hwn fan hyn wedi disgwyl unrhyw beth dros ben.
Beth yw ffactorau? / What are factors?
Rhifau sy’n rhannu i mewn i rif arall yn union yw ffactor.
Er enghraifft, dyma ffactorau 8:
1, 2, 4, 8
Gellir dangos ffactorau mewn parau. Mae pob pâr yn lluosi i wneud 8.
Dyma barau ffactorau 8:
1 x 8 = 8
2 x 4 = 8
More on Rhif
Find out more by working through a topic
- count10 of 16

- count11 of 16

- count12 of 16

- count13 of 16
