Mae rhedwr yn symleiddio ffracsiynau i gyfrifo pa mor bell y mae o'r llinell derfyn.
Sut i symleiddio ffracsiynau
Ti'n rhedeg 30 cilomedr? Ma hynna'n anhygoel!
Anoddach na'r disgwyl yn dyw e!
Paid poeni - mae gorsaf ddŵr ar ôl tri chilomedr.
Sef tair rhan o 30 o'r ffordd yno.
Gallwn symleiddio hwnna achos mae tri a 30 yn gallu cael eu rhannu gyda thri.
Os y'n ni'n rhannu'r rhifiadur a'r enwadur gyda thri gallwn weld y byddi di un rhan o ddeg o'r ffordd trwy'r ras.
Hei, twyllo yw hwnna!
Mae gorsaf ddŵr arall ar ôl 10 cilomedr.
Mae gan ddeg a 30 ffactor cyffredin o ddeg, ac os rhannwn ni'r ddau gyda deg rwyt ti draean o'r ffordd.
Mae hwnna'n bendant yn twyllo.
Ond mae'r orsaf ddŵr nesaf ar ôl 18 cilomedr.
Mae gan 18 a 30 ffactor cyffredin o chwech, a thrwy rannu'r ddau gyda chwech rwyt ti dair rhan o bump o'r ffordd trwy'r ras!

Symleiddio ffracsiynau
Gelli di symleiddio ffracsiwn os yw’n bosib rhannu’r rhifiadur (y rhif uwchben y llinell) a’r enwadur (y rhif o danodd) gyda’r un rhif.
Gelli symleiddio chwe deuddegfed yn un hanner, neu 1 dros 2, achos mae’n bosib rhannu’r ddau rif â 6.
Mae 6 yn mynd i mewn i 6 un waith ac i mewn i 12 ddwy waith.

More on Rhif
Find out more by working through a topic
- count8 of 16

- count9 of 16

- count10 of 16

- count11 of 16
