Sut i dalgrynnu rhifau degol
Dewch i ni weld be ma' Jerry ac Albert yn prynu ar gyfer eu gwyliau.
Smart iawn!
Well i ni gyfrifo faint o arian sydd ei eisiau arnyn nhw.
Beth am wneud brasamcan trwy dalgrynnu'r costau i'r bunt agosaf?
Pedair punt a 99 ceiniog.
Gan fod y swm yn gorffen gyda mwy na 50 ceiniog, ni'n talgrynnu i fyny i bum punt.
Mae ei snorcel yn ddwy bunt ac 20 ceiniog, sy'n golygu bod y swm yn gorffen mewn llai na 50 ceiniog, felly ry'n ni'n talgrynnu i lawr i ddwy bunt.
Mae'r gogls yn dair punt a 50 ceiniog, sy'n union hanner ffordd rhwng tair punt a phedair punt felly ry'n ni'n talgrynnu i fyny i bedair punt.
Bydd angen tua 11 punt ar Jerry ac Albert i siopa ar gyfer eu gwyliau.
Ond paid ag anghofio, os wyt ti'n talgrynnu arian i lawr, efallai bydd angen ychydig yn fwy arnat ti pan wyt ti'n cyrraedd y til!
Os wyt ti am dalgryniad mwy cywir, gelli di dalgrynnu i'r 50 ceiniog agosaf.
Talgrynna bunt a 45 ceiniog i bunt a 50 ceiniog.
Ym, ond cofia gadw'r daleb!
Talgrynnu arian neu ddegolion
Mae talgrynnu pris i’r bunt agosaf yr un peth â thalgrynnu degolyn i’r rhif cyfan agosaf.
Os mai £2.80 yw’r pris, gelli di dalgrynnu i fyny i £3 achos mai 8 yw’r rhif yn safle’r degfedau. Y rhif cyfan agosaf at 2.8 yw 3.
Os mai £2.08 yw’r pris, gelli di dalgrynnu i lawr i £2 achos mai 0 yw’r rhif yn safle’r degfedau. Y rhif cyfan agosaf at 2.08 yw 2.
Cofia, os mai 5 yw’r rhif rwyt ti’n ei dalgrynnu, talgrynna i fyny. Mae £2.50 wedi’i dalgrynnu i’r bunt agosaf yn £3.
More on Rhif
Find out more by working through a topic
- count7 of 16

- count8 of 16

- count9 of 16

- count10 of 16
