Y chwyldro ffasiwn: O dueddiadau i gynaliadwyedd
Mae ffasiwn yn ein galluogi i fynegi ein hunaniaeth drwy wisgo gwisgoedd sy’n rhoi hwb i’n hyder ac yn adlewyrchu ein personoliaethau. Ond, yn aml, gall yr hyn rydym yn ei wisgo gael effaith ar yr amgylchedd.
Fideo: Ffasiwn cynaliadwy
Beth sy’n dod i dy feddwl di pan glywi di newid hinsawdd?
Ffasiwn? Efallai ddim!
Ond mae’r hyn rydyn ni’n wisgo yn cael effaith ddifrifol ar yr amgylchedd.
Cyn y 1970au, doedd pobl ddim yn prynu dillad yn aml, ac roedd rhai yn gwneud eu dillad eu hunain.
Yna, dechreuodd sawl cwmni fasgynhyrchu dillad sef creu llawer iawn yn gyflym iawn.
Daeth dillad yn rhatach ac felly roedd hi’n haws llenwi’r cwpwrdd dillad a chario mlaen i brynu mwy i ddilyn y trends diweddaraf.Mae hyn yn cael ei alw’n ffasiwn cyflym.
Yn anffodus, mae masgynhyrchu dillad yn creu llawer o nwyon tŷ gwydr, sy’n dal gwres yn yr amgylchedd ac yn gwneud newid hinsawdd yn waeth.
Er engrhaifft, gall crys-t cotwm gwyn arferol gynhyrchu tua’r un faint o nwyon tŷ gwydr â theithio mewn car o Aberystwyth i Aberteifi.
Ac mae tyfu digon o gotwm i greu un pâr o jîns yn defnyddio rhwng 7,500 a 10,000 litr o ddŵr – mae hynna’n ddigon o ddŵr yfed i un person am 10 mlynedd.
Mae llawer o ddillad wedi eu creu gyda ffeibrau synthetig fel neilon a pholyester.
Pan maen nhw’n cael eu golchi, maen nhw’n rhyddhau darnau bach iawn o blastig o’r enw ‘meicroblastigau’.
Mae meicroblastigau yn gwneud niwed i fywyd gwyllt mewn afonydd ac ar yr arfordir.
Gallan nhw hyd yn oed gyrraedd ein dŵr yfed.
Mae’r pellter y mae dillad yn ei deithio o’r lle maen nhw’n cael eu creu i’r lle maen nhw’n cael eu gwerthu hefyd yn broblem.
China yw prif gynhyrchwyr dillad y byd ac mae crys-t sy’n cael ei greu yno yn teithio 8,000km er mwyn cyrraedd Cymru.
Mae’r rhan fwyaf o’r dillad yr ydym yn ei brynu yn cyrraedd safleoedd tirlenwi yn y pen draw neu i losgyddion - peiriannau arbennig sy’n llosgi gwastraff ond sydd, wrth gwrs, yn rhyddhau nwyon tŷ gwydr.
Mae hysbysebion cyson a phwysau gan gyfoedion yn gallu ei gwneud hi’n anodd peidio â dewis ffasiwn cyflym. Ond mae pethau’n newid.
Mae sawl brand wedi dechrau defnyddio deunyddiau sy’n cael eu hailgylchu ac mae llwyth o gwmnïau yn canolbwyntio ar gynhyrchu dillad sy’n garedig i’r amgylchedd. Ac mae hyn i’w weld yng Nghymru.
Gwna hyn hi’n haws i brynu’n lleol a lleihau’r pellter y mae’r dillad yn ei deithio.
Mae gan ambell ysgol siop swopio ble y gall disgyblion gyfnewid gwisg ysgol sy’n rhy fach am un sy’n ffitio.
Mae yna grwpiau ar draws Cymru sy’n ei gwneud hi’n haws i greu economi gylchol efo’ch dillad sy’n golygu arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu eich dillad yn hytrach na’u gwastraffu a phrynu mwy!
Mae’r grwpiau yma yn trefnu digwyddiadau swopio dillad fel y galli di gael gwared ar rywbeth rwyt ti wedi hen flino arno fo am rywbeth sy’n well gen ti.
Mae ’na hefyd weithdai trwsio dillad fel bod dy ddillad di’n para’n hirach, neu alli di ddysgu sut i altro dillad er mwyn rhoi golwg newydd i hen ddilledyn.
Fyddai’n golygu dy fod yn cyfrannu at fod yn gynaliadwy tra’n edrych yn dda!
Felly’r tro nesaf ti’n meddwl am wisg newydd, ystyria y syniadau yma er mwyn cyfrannu yn bositif at yr amgylchedd.
Beth yw ffasiwn cyflym?
Mae ffasiwn cyflym yn golygu bod cwmnïau dillad yn gwneud llawer iawn o ddillad yn gyflym iawn ac yn eu gwerthu am brisiau isel. Mae hyn yn digwydd oherwydd bod pobl eisiau llawer o ddillad newydd sy’n ffasiynol ac nad ydyn nhw'n costio llawer. Efallai fod hyn yn swnio’n wych, ond gall achosi rhai problemau mawr.
Mae llawer o gwmnïau’n gwneud dillad yn gyflym ac yn rhad er mwyn cadw i fyny â’r hyn y mae pobl ei eisiau. Ar adegau, maen nhw’n cael eu gwneud mewn llefydd lle maen nhw’n gallu talu llai o arian i weithwyr a lle nad oes rhaid iddyn nhw bob amser ddilyn rheolau llym i ddiogelu’r amgylchedd. Mae hyn yn ei gwneud yn hawdd cynhyrchu a gwerthu dillad ym mhob cwr o’r byd, ond mae hon yn broses anghynaliadwyRhywbeth na all barhau am amser hir oherwydd ei fod yn defnyddio gormod o adnoddau neu’n achosi niwed i’r amgylchedd, gan ei gwneud yn anodd ei gynnal yn y dyfodol..
Mae globaleiddio yn cyflymu tueddiadau ffasiwn gyda chymorth gan bethau fel cyfryngau cymdeithasol a theledu. Mae technoleg yn gwneud i ffasiwn ledaenu’n gyflym ledled y byd, ac mae hyn yn cynyddu’r galw am gynhyrchu cotwm a polyester. Mae rhai pobl yn dadlau bod hyn yn creu cymdeithas fwy homogenaiddPan fydd pawb mewn grŵp yn debyg mewn sawl ffordd, er enghraifft, sut maen nhw’n edrych neu’n ymddwyn.
Yn 2022, gwariodd cartrefi cyffredin y DU £17.60 yr wythnos ar ddillad ac esgidiau.
Gweithgaredd: Cynhyrchu, cludo a thaflu dillad
Effeithiau ar yr amgylchedd
Ffatrïoedd
Pan fydd ffatrïoedd yn gwneud dillad, maen nhw'n llosgi pethau fel glo ac olew i gael egni. Gelwir y rhain yn danwydd ffosil. Mae llosgi tanwydd ffosil yn rhyddhau nwyon tŷ gwydr sy’n dal gwres yn yr aer, gan wneud y Ddaear yn gynhesach. Gall hyn achosi newidiadau yn y tywydd a phroblemau eraill. Yn ogystal â hyn, mae’r cemegau sy’n cael eu defnyddio wrth liwio ffabrigau i wahanol liwiau yn aml yn gallu mynd i mewn i’r system ddŵr mewn modd afreolus, sy’n difrodi ecosystemau dyfrolCymuned o blanhigion ac anifeiliaid sy’n byw mewn dŵr, ar ddŵr neu gerllaw dŵr..
Cludiant
Mae dillad yn aml yn cael eu gwneud ledled y byd, sydd wedyn yn cael eu cludo i siopau a storfeydd yng Nghymru, sy’n gallu creu llygredd o’r cerbydau, y llongau a’r awyrennau sy’n eu cludo. Mae’r tanwydd sy’n cael ei ddefnyddio i gludo’r cynnyrch yn llygru’r aer gyda nwyon tŷ gwydr.
Microblastigion
Weithiau, pan fyddwn yn golchi dillad sydd wedi’u gwneud o ddeunyddiau fel polyester (ffeibr wedi’i wneud gan ddyn), mae darnau bach o blastig yn torri i ffwrdd. Microblastigion yw’r enw ar y rhain, a gallan nhw ganfod eu ffordd i afonydd a moroedd. Maen nhw’n ddrwg i bysgod ac anifeiliaid eraill sy’n byw yn y dŵr, gan eu bod yn gallu eu treulio, a gallan nhw hyd yn oed fynd i mewn i’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta.
Gwastraff
Mae pobl yn aml yn taflu dillad nad ydyn nhw eu heisiau mwyach. Er y gall pobl ailgylchu eu hen ddillad, yn aml nid ydyn nhw'n gwneud hynny, ac mae’r dillad nad oes eu hangen arnyn nhw'n mynd i safleoedd tirlenwi a gallan nhw achosi problemau wrth iddyn nhw dorri i lawr.

Effeithiau ar gymdeithas
Defnyddio dŵr
I wneud dillad, mae angen llawer o ddŵr i helpu i dyfu’r planhigion sy’n cynhyrchu cotwm. Gall hyn fod yn broblem mewn gwledydd sy’n tyfu cotwm sydd â hinsawdd boethach na ni, oherwydd os oes gormod o ddŵr yn cael ei ddefnyddio, mae'n ei gwneud hi'n anodd i bobl leol sicrhau bod ganddyn nhw ddigon o ddŵr i yfed, i ymolchi ac i gyflenwi eu hanifeiliaid.
Ecsbloetio llafur
Mae llawer o frandiau ffasiwn cyflym yn dibynnu ar lafur rhad mewn gwledydd sy’n datblygu, lle mae gweithwyr yn aml yn cael cyflogau isel ac yn wynebu amodau gwaith gwael, gan gynnwys oriau hir a gweithleoedd anniogel.
Risgiau iechyd
Gall defnyddio cemegion gwenwynig wrth gynhyrchu tecstilau a phrosesau lliwio achosi risgiau iechyd i weithwyr a chymunedau sy’n byw ger ffatrïoedd.

Colli hunaniaeth ddiwylliannol
Gall ffasiwn cyflym wneud i bobl feddwl bod angen llawer o ddillad arnyn nhw a’r steiliau diweddaraf drwy’r amser. Gall hyn wneud i bobl anghofio gwerth dillad wedi’u gwneud yn dda ac arddulliau traddodiadol o wahanol ddiwylliannau a gall hefyd wneud i bawb edrych yr un fath heb ddathlu ein harddulliau a’n cefndiroedd unigryw.
Beth sy’n cael ei wneud i wneud ffasiwn yn fwy cynaliadwy?
Mae mwy a mwy o bobl yn dechrau siarad am faterion ffasiwn cyflym ac yn ceisio dod o hyd i atebion, ac mae rhai cwmnïau dillad wedi dechrau gwneud eu dillad mewn ffyrdd sy’n well i’r amgylchedd.
Defnyddio cotwm organig
Yn golygu peidio â defnyddio cemegion niweidiol fel chwynladdwyr Cemegyn sy'n wenwynig i blanhigion, a ddefnyddir i ladd planhigion sy'n tyfu lle nad oes eu heisiau. a plaleiddiaidCemegion a ddefnyddir i ladd plâu. sy’n niweidio’r amgylchedd naturiol.

Ailgylchu hen ddillad
Mae rhai siopau’n cynnig cyfle i’w cwsmeriaid ddychwelyd hen ddillad i’w hailgylchu. Gellir ailgylchu’r ffabrigau yn y dillad hyn sy’n lleihau’r gwastraff mewn safleoedd tirlenwi ac yn lleihau’r angen am ddeunyddiau newydd.
Cyflogau teg i weithwyr
Mae cyflogau teg yn sicrhau bod gweithwyr yn gallu cefnogi eu hunain a’u teuluoedd. Mae gweithredu drwy gytundebau Masnach Deg yn golygu cefnogi arferion moesegol wrth gynhyrchu dillad, fel amodau gwaith digonol ac oriau gwaith rhesymol, yn ogystal â chyflogau.
Lleihau defnydd o egni a dŵr
Mae hyn yn helpu i leihau’r straen ar y tir a’r adnoddau naturiol a ddefnyddir i dyfu deunyddiau a gwneud dillad.
Fideo: Ffasiwn cynaliadwy ar waith
Ma llawer ohonom ni'n meddwl am be rydyn ni'n wisgo, neu o leia'n hoffi teimlo'n dda am y ffordd 'da ni'n edrych, ond ma llawer o'r dillad rydyn ni'n eu prynu yn achosi pob math o drafferthion i'r blaned.
Mae masgynhyrchu dillad, sef gwneud llawer iawn o ddillad yn rhad ac yn gyflym, hefyd yn achosi sawl problem.
Mae'n cynhyrchu nwyon tŷ gwydr sy'n gwneud newid hinsawdd yn waeth, a mae'n defnyddio llwyth o ddŵr.
Mae dillad synthetig hefyd yn rhyddhau meicro blastig pan mae nhw'n cael eu golchi, sef darnau bach iawn o blastig sydd yn cyrraedd ein hafonydd a'r môr yn y pendraw.
Er mwyn bod yn ffasiynol, os 'rydych chi'n dewis bod, mae angen i ni daflu llawer yn llai o ddillad sydd fel arfer yn pydru mewn safleoedd tirlenwi yn y pendraw.
Ond mae 'na lawer o bethau y galli di neud heb golli dy steil.
Y peth gora alli di neud ydy trio lleihau faint o ddillad newydd ti'n eu brynu.
Os ydy hi'n amser cael rhywfaint o newid, be am brynu dillad vintage neu ddillad ail-law yn lle dillad newydd.
Neu tria gael dillad sydd wedi cael eu gwneud yn agosach at adra – edrycha ar y label i weld o lle daeth y dilledyn.
Os elli di tria brynu dillad sy'n para'n hirach fel dy fod yn prynu'n llai aml.
Alli di hefyd drio prynu gan gwmniau neu siopau sy'n canolbwyntio ar fod yn gynaliadwy.
Yn lle taflu hen ddillad be am drio cyfuno eitemau gwahanol i greu gwisg newydd?
Neu helpa i greu economi gylchol drwy fynd â dy ddillad i siop elusenol neu eu gwerthu ar lein.
Wyt ti wedi gweld un o'r rhein o'r blaen?
Bag guppy ydi hwn lle ti'n rhoi dy ddillad tu mewn i'r bag er mwyn eu golchi yn y peiriant.
Mae hyn yn stopio'r meicro blastigau rhag dianc i'r amgylchedd.
Mae yna lawer o bwysau i fod yn ffasiynol gan ffrindiau, teledu, hysbysebion a selebs er enghraifft, ond mae mwy a mwy o bobl yn ymwneud â ffasiwn cynaliadwy ac mae yna sawl grŵp ar draws Cymru y gelli di ymuno â nhw.
Mae angen bod yn eitha creadigol ond alli di helpu'r blaned tra'n edrych yn dda hefyd.
Gweithgaredd: Beth allwn ni ei wneud ?
Drwy weithredu ar lefelau unigol, cenedlaethol a rhyngwladol, gallwn i gyd weithio tuag at ddiwydiant ffasiwn mwy cynaliadwy sy’n parchu pobl a’r blaned.
Ailgylchu mewn dolen gaeedig
Mae ailgylchu mewn dolen gaeedig yn golygu mynd ag eitemau sydd wedi cael eu defnyddio fel hen ddillad a’u troi’n ôl i’r un math o gynnyrch, fel eitemau newydd o ddillad. Mae deunyddiau’n cael eu hailddefnyddio dro ar ôl tro heb golli ansawdd. Mae hyn yn ein helpu i arbed adnoddau, defnyddio llai o egni, a gwneud llai o wastraff.

Wrth i fwy o bobl ddod yn ymwybodol o’r problemau sy’n gysylltiedig â ffasiwn cyflym, gallwn i gyd weithio gyda’n gilydd i greu diwydiant ffasiwn sy’n well i’r blaned ac i bawb sy’n byw arni.
Cwis
More on Gwastraff a llygredd
Find out more by working through a topic
- count2 of 2
