Trydydd isradd a chilyddion
Trydydd isradd
I ganfod trydydd isradd unrhyw rif, rhaid i ni ganfod pa rif sy’n rhoi’r rhif hwnnw pan fo’n cael ei luosi ag ef ei hun ddwywaith. Mae hyn yr un peth â cheisio canfod hyd ochr ciwb pan rwyt yn gwybod ei gyfaint.
Gyda rhai gwerthoedd, gallwn wneud hyn heb gyfrifiannell ond, yn amlach na pheidio, bydd rhaid i ni ddefnyddio un.
Pe bai angen i ni ganfod trydydd isradd 1,728 efallai y bydden ni’n ei weld wedi ei ysgrifennu fel \(\sqrt[3]{1728}\). Sylwa fod hwn yn wahanol i’r symbol ail isradd gan fod yna is-nod bach 3 o flaen y \(\sqrt{}\). Drwy ddefnyddio’r botwm trydydd isradd ar y gyfrifiannell, gwelwn fod \(\sqrt[3]{1728}\) = 12.
Ystyr hyn yw pe bai gennyn ni giwb a chyfaint o 1,728, hyd ei ochrau fyddai 12.
Cilydd
Mae pobl yn aml yn camddeall ystyr y term cilydd. Cilydd unrhyw rif yw’r rhif y byddai’n rhaid i ti ei luosi ag ef er mwyn cael yr ateb 1.
Edrycha ar y cilyddion hyn:
Cilydd 2 yw \(\frac{1}{2}\)
Cilydd 3 yw \(\frac{1}{3}\)
Cilydd 4 yw \(\frac{1}{4}\)
Cilydd 5 yw \(\frac{1}{5}\)
Cilydd 6 yw \(\frac{1}{6}\)
Dylet fod wedi sylwi ar y patrwm, sef cilydd unrhyw rif yw un dros y rhif hwnnw. Pwynt arall diddorol yw mai cilydd unrhyw gilydd yw’r rhif gwreiddiol.
Cilydd \(\frac{1}{2}\) yw 2.
Cilydd \(\frac{1}{3}\) yw 3.
Cilydd \(\frac{1}{4}\) yw 4.
Cilydd \(\frac{1}{5}\) yw 5 ac yn y blaen.
Question
Beth yw cilydd -1?
Gan y byddai’n rhaid i ni luosi -1 â -1 i gael y canlyniad 1,
-1 yw ei gilydd ei hun.
Gallen ni hefyd ateb y cwestiwn hwn drwy gyfrifo \(\frac{1}{-1}\) = -1.