Mae deall termau mathemategol yn gam pwysig tuag at ddealltwriaeth well o’r pwnc. Dysga ystyr wedi ei sgwario, rhif ciwb, ail isradd, trydydd isradd a chilydd, a sut i’w defnyddio.
Gallwn ddisgrifio ciwb, yn syml, fel sgwâr 3 dimensiwn. Un o’i briodweddau yw bod ei sylfaen, ei led a’i uchder i gyd yr un fath (os byddai hyd y sylfaen, y lled a’r uchder yn wahanol, enw’r siâp fyddai ciwboid).
Yn yr un modd, mae rhif ciwb yn golygu lluosi’r rhif ag ef ei hun ddwywaith. Felly 10 ciwb fyddai 10 × 10 × 10 = 1,000. Mae hwn yr un canlyniad â phe bai gofyn i ni gyfrifo cyfaint ciwb sydd â hyd ei ochrau’n 10, sef tarddiad yr enw.
Rydyn ni’n ysgrifennu rhif ciwb drwy ddefnyddio uwch-nod 3. Felly os ydyn ni eisiau canfod 6 ciwb, gallen ni ei ysgrifennu fel 63.