Bygythiadau i’r goedwig law drofannol
Mae coedwigoedd glaw trofannol Basn Amazonas yn wynebu bygythiad datgoedwigoTorri coed a choedwigoedd er mwyn defnyddio’r tir at bwrpas arall.. Mae datgoedwigo yn digwydd am y rhesymau a ganlyn.
- ffermio bugeiliolPan fydd anifeiliaid yn cael eu magu am eu cig, er enghraifft gwartheg. – wrth i’r galw byd-eang am gig gynyddu, mae llawer o ffermydd gwartheg wedi agor ym Masn Amazonas i gynhyrchu cig eidion. Mae’r math hwn o ffermio yn ddull ungnwd oherwydd ei fod yn defnyddio un ffynhonnell anifeiliaid (da byw).
- ffermio ârTyfu cnydau. – mae hyn hefyd yn arwain at golli coedwigoedd glaw trofannol gan fod llawer o ffermwyr yn clirio tir i dyfu cnwd gwerthuCnydau a gaiff eu gwerthu i wneud elw., fel ffa soia. Mae’r math hwn o ffermio yn ddull dwys, hynny yw, mae ffermwyr yn cynhyrchu cnydau cynnyrch uchelPan fo peth wmbredd o rywbeth yn cael ei gynhyrchu. drwy ddefnyddio gwahanol fathau o wrteithiau a phlaleiddiaid.
- Torri coed – mae coedwigoedd glaw’n cael eu torri er mwyn cael lle i fynd at goed gwerthfawr fel coed mahogani a’u gwerthu fel pren i wneud dodrefn. Mae coed eraill yn cael eu torri i wneud cynnyrch papur.
- Mwyngloddio – mae Basn Amazonas yn llawn adnoddau naturiol fel mwyn haearn, copr, tun, alwminiwm, manganîs ac aur. Mae hyn wedi arwain at ddatblygu mwyngloddiau, a chlirio coedwigoedd glaw trofannol. Mwynglawdd Carajas ym Mrasil yw’r mwynglawdd haearn mwyaf yn y byd.
- Ffyrdd – mae adeiladu ffyrdd mynediad i ffermwyr, coedwigwyr a mwyngloddwyr yn golygu bod rhannau helaeth o’r goedwig law drofannol yn cael eu dinistrio. Mae hefyd yn golygu bod coedwig law nad oedd yn cael ei defnyddio cyn hyn yn agored i’w datblygu.
- pŵer trydan dŵrEgni’n cael ei greu gan ddŵr yn llifo’n gyflym. – mae creu gorsafoedd pŵer trydan dŵr ym Masn Amazonas wedi golygu bod rhannau mawr o goedwigoedd yn cael eu boddi i greu cronfeydd dŵr ac argaeau. Pan adeiladwyd argae Balbina ym Mrasil cafodd 920 milltir sgwâr o goedwigoedd trofannol eu boddi.
- Poblogaeth – mae twf yn y boblogaeth wedi arwain at golli coedwigoedd trofannol gan fod tir yn cael ei glirio i godi tai ac isadeileddY strwythurau sylfaenol sydd eu hangen ar ardal i weithredu’n llwyddiannus, fel ffyrdd a chysylltiadau..
Effeithiau colli coedwigoedd glaw trofannol
Mae effeithiau datgoedwigo Basn Amazonas yn cynnwys y canlynol.
Erydiad pridd
Pan mae llystyfiant coedwig law wedi cael ei glirio mae’r pridd yn foel. Pan mae’n bwrw glaw, mae’r maetholion yn y pridd yn cael eu golchi i ffwrdd. Mae’r cylchred faetholionY ffordd mae maetholion fel calsiwm, potasiwm a magnesiwm yn symud fel cylch o fewn ecosystem. yn cael ei hatal oherwydd does dim planhigion a choed sy’n colli dail i roi maetholion yn ôl yn y pridd. Nid yw’r pridd yn gallu cynnal planhigion mwyach oherwydd nid yw’n ffrwythlon. Nid yw gwreiddiau planhigion a choed yn dal y pridd at ei gilydd mwyach felly mae’n cael ei erydu’n hawdd.
Colli bioamrywiaeth
Mae llawer o wahanol rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid yn marw o ganlyniad i ddatgoedwigo. Gan fod cysylltiad agos rhwng planhigion ac anifeiliaid, drwy’r gwe fwydRhwydwaith o gadwyni bwyd, sy’n dangos sut maen nhw i gyd yn gysylltiedig â’i gilydd., mae hyn yn lleihau’r bioamrywiaethYr amrywiaeth o anifeiliaid a phlanhigion mewn ardal arbennig., neu’r amrywiaeth o rywogaethau, sydd i’w gweld yn y goedwig law drofannol.
Newid hinsawdd
Mae coed a phlanhigion Basn Amazonas yn amsugno carbon deuocsid yn ystod y broses ffotosynthesisProses gemegol y mae planhigion yn ei defnyddio i greu glwcos ac ocsigen o garbon deuocsid a dŵr, gan ddefnyddio egni golau. Caiff ocsigen ei greu fel sgil gynnyrch ffotosynthesis. Mae algâu a gaiff eu hamsugno gan blanhigion ac ambell facteria yn ffotosynthetig hefyd.. Os oes llai o goed a phlanhigion o ganlyniad i ddatgoedwigo, yna bydd llai o garbon deuocsid yn cael ei dynnu o’r atmosffer. Mae hyn yn golygu bod datgoedwigo yn cyfrannu tuag at cynhesu byd-eangY cynnydd yn nhymheredd cyfartalog arwyneb y Ddaear. ac, o ganlyniad, at newid hinsawdd.
Datblygu economaidd
Mae creu mwyngloddiau, ffermydd a ffyrdd, sy’n achosi datgoedwigo, hefyd wedi arwain at ddatblygu economaidd. Mae’r arian sy’n cael ei greu drwy’r mentrau hyn yn caniatáu i wlad gynhyrchu incwm tramor. Mae’n bosibl defnyddio’r incwm hwn wedyn i dalu dyledion neu mae’n bosibl ei fuddsoddi mewn rhagor o brosiectau datblygu.