Teithio
Mae cyrchfannau ar gyfer teithiau byr yn aml yn cael eu diffinio fel lleoedd sydd o fewn amser hedfan o 3 awr i'r cartref.
Mae rhai cwmnïau yn y DU yn cynnig hediadau rhad i feysydd awyr eraill yn y DU neu i Ewrop. Mae cost isel yr hediadau hyn, ynghyd â mwy o amser hamdden yn sgil oriau gwaith hyblyg, wedi annog wsmeriaid i gymryd sawl gwyliau byr y flwyddyn yn hytrach nag un gwyliau blynyddol.
Astudiaeth achos: Llundain
Mae Llundain yn un o brif gyrchfannau twristiaeth y byd, ac mae'r ddinas yn gartref i amrywiaeth o atyniadau twristaidd enwog.

Atyniadau
- London Eye - olwyn Fferis anferth wedi'i lleoli ar ymyl yr Afon Tafwys
- Big Ben a Senedd y DU
- Abaty Westminster
- Tŵr Llundain
- Palas Buckingham
- Sŵ Lundain
- Eglwys Gadeiriol Sant Paul
- Yr Amgueddfa Brydeinig
- Yr Oriel Genedlaethol
Teithio pellter hir
Gwyliau pellter hir yw cyrchfannau y tu hwnt i Ewrop, fel arfer gydag amser hedfan o bedair awr neu fwy.
Astudiaeth achos: Kenya
Mae gwledydd incwm isel (LICs) gwledydd incwm canolig (MICs) yn awyddus i ddenu twristiaid i hybu datblygiad. Kenya oedd un o'r gwledydd incwm isel cyntaf i ddatblygu ei diwydiant twristiaeth.

Atyniadau
Mae gan Kenya hinsawdd gynnes ac mae wedi'i lleoli ar yr arfordir. Mae ei pharciau saffari, riffiau cwrel a thraethau tywodlyd yn ei gwneud hi’n gyrchfan boblogaidd iawn i dwristiaid..
Manteision twristiaeth
- Gwell safonau byw i bobl leol, gyda mwy o ysgolion ac ysbytai..
- Gwella'r seilwaith.
- Mae parciau saffari yn amddiffyn anifeiliaid rhag potswyr a gallan nhw atal rhywogaethau rhag diflannu.
- Mae pobl leol yn gallu gwneud arian, ee drwy werthu crefftau.
Anfanteision twristiaeth
- Mae rhai swyddi yn cynnig cyflogau isel ac nid ydyn nhw’n barhaol..
- Gallai dulliau traddodiadol o greu bywoliaeth gael eu colli yn y broses.
- Mae parciau bywyd gwyllt agored yn achosi erydiad pridd ac yn newid ymddygiad yr anifeiliaid gwyllt.
- Mae gwestai yn defnyddio llawer o ddŵr, sy'n adnodd gwerthfawr.
Twristiaeth gynaliadwy
Mae ansefydlogrwydd gwleidyddol, troseddau treisgar, gorfasnachu parciau saffari a diraddio amgylcheddol wedi atal rhai twristiaid rhag ymweld â'r wlad.
Gall y dirywiad gael ei reoli drwy ddilyn y camau isod
- cyfyngu ar nifer y bobl sy’n ymweld â pharciau morol a pharciau gemau
- defnyddio pobl leol fel tywyswyr
- cyfyngu ar uchder datblygiadau arfordirol
- addysgu twristiaid i gadw at arferion lleol