Ecodwristiaeth
Mae ecodwristiaeth yn ffurf gynaliadwy o dwristiaeth. Mae'n ceisio peidio â difrodi'r amgylchedd ac yn parchu diwylliant ac arferion lleol.
Nod ecodwristiaeth neu dwristiaeth werdd yw rhoi swyddi i bobl leol tra'n gwarchod yr amgylchedd. Mae ecodwristiaid yn teithio mewn grwpiau bach ac yn aml yn ymweld â gwarchodfeydd lle mae'r golygfeydd a'r bywyd gwyllt yn cael eu hamddiffyn a'u rheoli.
Mae rhai pobl yn pryderu a fydd ecodwristiaeth yn parhau i fodoli ac i weithio yn y tymor hir. Bydd hyd yn oed niferoedd bach o ymwelwyr yn dod â newid. Mae nifer gynyddol o dwristiaid yn gofyn am gyfleusterau fel gwestai a bwytai. Mae rhai pobl yn credu bod y boblogaeth leol yn debygol o fod eisiau manteisio ar y cyfle i greu hyd yn oed fwy o gyfoeth.
Astudiaeth achos: ecodwristiaeth yn y goedwig law

Mae ecodwristiaeth yn datblygu i fod yn ffordd flaenllaw i wledydd incwm isel (LlCs) greu refeniw, gan osgoi amharu ar eu coedwigoedd glaw.Yn y goedwig law, mae ecodwristiaid yn:
- gwarchod yr amgylchedd - Maen nhw’n teithio mewn grwpiau bach, yn cadw at lwybrau troed ac nid ydyn nhw’n gadael sbwriel nad yn cynnau tân.
- cefnogi cymunedau lleol - Mae nhw’n aros mewn llety sy'n eiddo i bobl leol, yn prynu cynnyrch gan bobl leol ac yn aros mewn cabanau sydd wedi'u creu o ddeunydd lleol
- ailgylchu drwy ddefnyddio toiledau compost
- defnyddio tywyswyr lleol ar gyfer teithiau cerdded yn y goedwig law er mwyn dysgu am y bywyd gwyllt
- prynu gwaith crefft sydd wedi’u creu â llaw gan bobl leol
- parchu arferion a thraddodiadau lleol - mae pobl leol yn gwerthfawrogi twristiaid sy'n ceisio dysgu'r iaith ac yn dangos diddordeb yn eu diwylliant