Atgenhedlu ac amrywiad
Atgynhyrchu anrhywiol
Does dim ond angen un rhiant mewn atgynhyrchu anrhywiol. Does dim cyfuno gametCell rhyw (sberm mewn gwryw, ofa (wyau) mewn benyw)., felly nid yw deunydd genetig yn cymysgu. Mae hyn yn golygu mai clônOrganeb sydd yn union yr un fath ag organeb arall o ran geneteg. yw’r epil a gynhyrchir drwy’r broses hon, hynny yw, maent yn enetig unfath â’r rhiant.
Dyma rai enghreifftiau o organebau sy’n defnyddio atgynhyrchu anrhywiol:
- bacteriaMicro-organebau ungellog, gyda rhai yn bathogenaidd mewn pobl, anifeiliaid a phlanhigion. Bacteriwm yw’r unigol.
- sbôrUned atgenhedlu anrhywiol mewn rhai organebau. a gynhyrchir gan ffyngauGrŵp mawr o organebau ewcaryotig sy’n cynnwys burum, llwydni a madarch ungell.
- mae rhai planhigion, fel mefus, yn defnyddio ymledyddion
- cloronCoesyn cnodiog wedi chwyddo o dan y ddaear mewn planhigion fel tatws, sydd â blagur y mae planhigion newydd yn egino ohonynt. a ffurfir mewn tatws a bylbiau cennin pedr
Mitosis
Mae atgynhyrchu anrhywiol yn defnyddio proses mitosisMath o gellraniad sy’n cynhyrchu epilgelloedd sy’n union yr un fath â’r rhiant. i greu’r copïau unfath (clonau) o’r rhiant gell.
Mae’n arwain felly at epil nad yw’n dangos dim amrywiad genetig.
Atgenhedlu rhywiol
Ar gyfer atgenhedlu rhywiol mae angen dau riant, gwryw a benyw, a’r naill a’r llall yn cynhyrchu gametau. Ffrwythloniad yw pan fydd cnewyllynMae’r cnewyllyn yn rheoli’r hyn sy’n digwydd y tu mewn i gell. Cromosomau sydd i’w gweld yng nghnewyllyn y rhan fwyaf o gelloedd yw strwythurau. Cnewyll yw lluosog cnewyllyn. gamet gwryw yn uno â chnewyllyn gamet benyw.
Mewn bodau dynol, mae gan bob gamet hanner y cyfanswm o 46 cromosom sydd eu hangen ar y corff. Cyfeiriwn at y 23 cromosom mewn gamet fel haploid.
Pan fydd y ddau gamet yn cyfuno, maent yn uno’r ddwy set o gromosomau i gael 46, a elwir yn ddiploid.
Mae hyn yn cynhyrchu cell newydd, sef sygotWy wedi'i ffrwythloni, o ganlyniad i uno dau gamet., a fydd yn aeddfedu’n embryo. Bydd nifer y celloedd yn cynyddu trwy fitosis, ac wrth i’r embryo ddatblygu, bydd y celloedd yn dechrau gwahaniaethu (neu arbenigo).
Gan fod hanner gwneuthuriad genetig yr epil yn dod o un organeb a’r hanner arall o un arall, mae’n enetig wahanol i’w rieni. Mewn geiriau eraill, mae’n dangos amrywiad.