Ffactorau cysefinCanfod LlCLl a FfCM o ffactorau cysefin

Mae ffactorau cysefin, lluosrifau cyffredin lleiaf a ffactorau cyffredin mwyaf yn ein galluogi i ddatrys problemau bywyd bob dydd. Mae hwn yn faes diddorol fydd yn gymorth i ddeall rhifau’n well.

Part ofMathemategRhif

Canfod LlCLl a FfCM o ffactorau cysefin

Weithiau, byddi’n cael rhifau wedi eu mynegi fel lluoswm o ffactorau cysefin. Er enghraifft, 8 = 23 a 90 = 2 × 32 × 5.

Os wyt ti eisiau canfod y LlCLl a’r FfCM mewn arholiad, gallwn ddefnyddio dull y ffactorau cysefin i symleiddio’r broses.

Enghraifft

Canfydda LlCLl a FfCM 18 a 30.

Yn gyntaf, rydyn ni’n ysgrifennu’r rhifau fel lluoswm o ffactorau cysefin.

18 = 2 × 3 × 3 = 2 × 32

30 = 2 × 3 × 5

Yna rydyn ni’n creu diagram Venn ar gyfer y ffactorau:

Diagram Venn gyda dau gylch yn gorgyffwrdd. Maen nhw’n dangos ffactorau 18, 30 a’r ddau.

Unwaith mae gennyn ni’r diagram Venn, yn syml, gallwn luosi’r holl rifau yn y diagram Venn i ganfod y LlCLl:

LlCLl = 3 × 2 × 3 × 5 = 90

I ganfod y FfCM, rydyn ni’n lluosi’r rhifau yn y rhan sy’n gorgyffwrdd gyda’i gilydd:

FfCM = 2 × 3 = 6

Mae’n bwysig i ni nodi hyn: pan fydd gen ti ddau rif, a bod gofyn i ti ganfod y FfCM a’r LlCLl, y LlCLl fydd y mwyaf o’r ddau rif.

Enghraifft

Canfydda LlCLl a FfCM 50 ac 16.

Yn gyntaf, rydyn ni’n ysgrifennu’r rhifau ar ffurf ffactorau cysefin:

50 = 2 × 5 × 5 = 2 × 52

16 = 2 × 2 × 2 × 2 = 24

Yna rydyn ni’n llunio’r diagram Venn:

Diagram Venn gyda dau gylch yn gorgyffwrdd. Maen nhw’n dangos LlCLl a FfCM 50 ac 16.

Gan fod 2 yn ffactor i’r ddau rif, mae hwn yn mynd yn y canol. Mae’r ffactorau sydd dros ben yn mynd yn eu cylchoedd perthnasol.

Cawn y LlCLl drwy luosi’r holl rifau yn y diagram Venn gyda’i gilydd. Gan fod yna bedwar rhif 2 a dau rif 5:

LlCLl = 2 × 2 × 2 × 2 × 5 × 5 = 400

Cawn y FfCM drwy luosi’r holl rifau sydd yn y rhan sy’n gorgyffwrdd gyda’i gilydd. Gan mai dim ond un rhif sydd yno:

FfCM = 2