Mae ffactorau cysefin, lluosrifau cyffredin lleiaf a ffactorau cyffredin mwyaf yn ein galluogi i ddatrys problemau bywyd bob dydd. Mae hwn yn faes diddorol fydd yn gymorth i ddeall rhifau’n well.
Y ffactor cyffredin mwyaf (wedi ei dalgrynnu i FfCM) yw’r rhif mwyaf sy’n mynd i mewn i ddau neu fwy o rifau. Er enghraifft, ffactorau cyffredin 40 ac 16 yw 2, 4 ac 8.
FfCM 40 ac 16 felly yw 8. Dyma’r rhif mwyaf sy’n ‘mynd i mewn’ i’r ddau rif.
Enghraifft un
Canfydda ffactor cyffredin mwyaf 12 a 20.
Ffactorau 12 yw: 1, 2, 3, 4, 6, 12.
Ffactorau 20 yw: 1, 2, 4, 5, 10, 20.
Y ffactor cyffredin mwyaf felly yw 4, gan mai dyma’r rhif mwyaf sy’n mynd i mewn i 12 a 20.