Dyfodol mwy agored i niwed
Yn anffodus, er bod gan bobl well dealltwriaeth o dechnegau rheoli’r arfordir erbyn hyn, mae’r bygythiad o dywydd eithafol a lefel y môr yn codi, yn ogystal â phoblogaeth sy’n cynyddu (yn enwedig wrth yr arfordir), yn golygu y bydd mwy a mwy o bobl yn dod yn agored i niwed yn y dyfodol.
Y bygythiadau yn sgil lefel y môr yn codi yn y dyfodol
O ganlyniad i gynhesu byd-eang a’r dystiolaeth a gyflwynwyd, mae disgwyl i lefel y môr godi rhwng 30 cm a 2 fetr erbyn 2100. Er bod neb yn gallu dweud yn union beth fydd yn digwydd, yn gyffredinol mae pobl yn disgwyl y bydd cymunedau arfordirol yn wynebu heriau mawr yn y dyfodol. Mae’n hanfodol cynllunio ar gyfer y sefyllfaoedd hyn yn y dyfodol er mwyn galluogi pobl i leihau’r risgiau a pharhau i fwynhau byw mewn ac ymweld ag ardaloedd arfordirol.
Mae’r gwaith cynllunio yn cynnwys nifer o strategaethau, gan gynnwys:
- adlinio arfordirol wedi’i reoli – yn debyg i’r hyn sy’n digwydd ym Medmerry
- arloesi ym maes adeiladu tai ac isadeiledd, fel y cynllun arfaethedig i gael dinas sy’n arnofio ym Mhorth Afon Tafwys
- amddiffynfeydd morol arloesol fel y rhai sydd yn y Cleveleys yn Sir Gaerhirfryn
Sut bydd newid hinsawdd yn effeithio ar y DU?
Wrth i lefel y môr godi, bydd erydu arfordirol yn cynyddu hefyd. Mae’r bygythiadau mwyaf yn siroedd deheuol Lloegr, lle mae’r rhan fwyaf o bobl yn byw. Mae hyn oherwydd bod llawer o’r tir yn isel, ac oherwydd bod hinsawdd gynhesach yn dod â mwy o stormydd a thywydd eithafol.