Monitro, mapio peryglon a chynllunio ar gyfer argyfwng
Mae gallu cymuned i ymdopi yn dibynnu ar faint y mae wedi paratoi. Mae hyn yn dibynnu ar fonitro a gallu rhagweld tywydd eithafol.
Yn y DU a llawer o wledydd incwm uchel (HICs), mae gan lywodraethau ac asiantaethau fynediad at offer monitro tywydd fel lloerenni a gorsafoedd tywydd ar y môr. Yng Nghymru, mae Cyfoeth Naturiol CymruUn o gyrff Llywodraeth Cymru sydd â’r nod o fonitro a chynnal a chadw’r amgylchedd a phopeth sy’n byw ynddo. a’r Y Swyddfa Dywydd Dyma wasanaeth tywydd cenedlaethol y DU. Mae’n darparu gwasanaethau tywydd a hinsawdd i’r Lluoedd Arfog, adrannau’r llywodraeth a’r cyhoedd. yn monitro’r tywydd yn ddyddiol ac maen nhw’n gallu rhoi gwybod i’r bobl sydd fwyaf agored i niwed. Hefyd, maen nhw’n gallu cynnig cyngor i’r bobl ynglŷn â phryd i adael er mwyn dod o hyd i fan diogel, yn ogystal â lle i fynd. Mae hyn yn cynyddu gallu gwlad i ymdopi ag effeithiau llifogydd arfordirol.
Mapio peryglon
Un o swyddogaethau eraill Cyfoeth Naturiol Cymru yw llunio mapiau o beryglon er mwyn nodi pa ardaloedd sydd mewn perygl o wynebu peryglon naturiol, ee llifogydd. Mae mapiau o beryglon yn darparu gwybodaeth i’r cyhoedd am ardaloedd sydd dan fygythiad mawr ac ardaloedd sy’n fwy diogel i fod ynddyn nhw. Gall y mapiau ddarparu gwybodaeth hanfodol i’r rheini sy’n cynllunio ac yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â’r risgiau cysylltiedig ag ardaloedd penodol o’r tir, ee maen nhw’n helpu cynllunwyr trefi i benderfynu p’un ai a ddylid rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer adeiladu tai newydd. Os yw’r map peryglon yn awgrymu bod llifogydd yn debygol yn yr ardal, dylid cymryd yn ganiataol y bydd caniatâd cynllunio yn cael ei wrthod.
Gwasanaethau brys
Mae gwasanaethau sydd wedi cael eu hyfforddi’n dda ac sydd â digon o offer yn hanfodol er mwyn sicrhau bod cymunedau’n llai agored i niwed. Mewn gwledydd incwm isel (LICs) nid dyma’r achos bob amser oherwydd y costau uchel sy’n gysylltiedig â hyn. Drwy adeiladu ysbytai a llochesi seiclon, yn ogystal â hyfforddi pobl i ddelio â pheryglon naturiol, gall gwlad wella ei gallu i ymdopi.
Mynd i’r afael â gwraidd y broblem
Yn ystod y 25 mlynedd diwethaf, mae wedi dod i’r amlwg y gall sefydliadau llywodraethol ac anllywodraethol (NGOs) helpu i wneud cymunedau’n llai agored i niwed. Bydd darparu’r un cyfleoedd i bobl mewn bywyd, fel addysg, mynediad at waith a thai o ansawdd da, yn helpu i wella gallu unigolion i ddelio â thrychineb naturiol. Mewn rhai gwledydd fel Bangladesh, mae nifer y plant sy’n mynd i’r ysgol ddeng gwaith yn fwy nag yr oedd 25 mlynedd yn ôl – diolch yn rhannol i dargedau wedi’u pennu gan Lywodraeth Bangladesh. Mae hyn yn golygu bod mwy a mwy o bobl yn llythrennog, ac felly’n gallu deall y peryglon maen nhw’n eu hwynebu a beth ddylen nhw ei wneud os bydd storm neu tsunami.
