Bygythiadau i ynys-wladwriaethau bach datblygol (SIDS)
Gwledydd arfordirol isel yw ynys-wladwriaethau bach datblygol (SIDS). Mae ganddyn nhw nodweddion tebyg:
- mae eu poblogaethau yn tyfu
- mae eu hadnoddau’n brin ac yn aml iawn maen nhw’n anghysbell
- amgylcheddau ynysig a amgylchedd bregusAmgylchedd a allai gael ei niweidio’n hawdd gan natur neu bobl, ee fforest law.
Y Maldives
ynysforMôr neu ddarn o ddŵr lle ceir sawl ynys neu grŵp o ynysoedd. sy’n cynnwys dros 1,000 o ynysoedd yng Nghefnfor India yw’r Maldives, sef clwstwr o ynysoedd a allai fod yn agored iawn i niwed pe bai lefel y môr yn codi. Mae poblogaeth gyfunol yr ynysoedd yn 350,000 ac mae llawer iawn o dwristiaid yn dod yno bob blwyddyn, ond mae byw ar yr ynysoedd yn beryglus iawn, oherwydd eu bod nhw’n agored iawn i niwed.
Ffactorau ffisegol – mae uchder yr ynysoedd yn eu gwneud nhw’n agored iawn i niwed pe bai lefel y môr yn codi. Y man uchaf ar y Maldives yw Mynydd Villingili, 5.1 metr uwchben lefel y môr, ac mae 80 y cant o’r tir lai na dau fetr uwchben lefel y môr.
Ffactorau cymdeithasol – mae’r rhan fwyaf o’r bobl yn byw ar y morlin, ac mae llawer yn byw mewn tai bregus, sy’n aml iawn wedi cael eu hadeiladu o ganghennau coed a bambŵ.
Ffactorau economaidd – mae pobl y Maldives yn byw ar gyflogau isel ac mae hi’n anodd cael deupen llinyn ynghyd. Mae’r ffigurau cynnyrch mewnwladol crynswth (CMC) yn gosod y wlad yn safle 165 ar restr gwledydd tlawd y byd – allan o 192. O ganlyniad, oherwydd diffyg incwm a chyfraniadau treth, nid yw’r llywodraeth yn gallu amddiffyn yr ynysoedd, ac nid yw’r bobl eu hunain yn gallu gwella eu cartrefi.
(Cynnwys Saesneg)
Effaith llifogydd yn y Maldives
Difrod i ardaloedd trefol – Malé yw’r brifddinas, ac yno mae’r rhan fwyaf o bobl yn byw. Yma, â chymorth Japan, mae wal fôr goncrit fawr wedi cael ei hadeiladu er mwyn amddiffyn y ddinas fach. Mae angen atgyweirio’r wal fôr yn gyson, ac mae hyn yn gostus. Mae’r Maldives yn gorfod casglu’r arian hwn gan y trigolion a’r ymwelwyr drwy dreth.

Dŵr yfed - heli yn mewnwthio – pan mae dŵr hallt o’r môr yn halogi dŵr yfed, mae’n rhoi pwysau mawr ar wlad i gael mynediad at ddigon o ddŵr yfed o’r tir. Mae dod â chyflenwadau o dramor yn aml yn ddrud ac yn anghynaliadwy yn y tymor hir.
Twristiaeth dan fygythiad – ar hyn o bryd, twristiaeth sy’n gyfrifol am 90% o gynnyrch domestig gros (GDP) y Maldives. Mae stormydd blaenorol eisoes wedi dinistrio a difrodi rhai cyfleusterau a chyrchfannau twristiaid. Mae’r bygythiad bach o tsunami a llifogydd arfordirol yn golygu bod rhai twristiaid yn amharod i ymweld â’r Maldives.
Ffoaduriaid amgylcheddol – mae lefel y môr yn codi, sy’n bygwth bodolaeth y Maldives. Mae’n bosib y bydd yr ynysoedd yn diflannu yn ystod y ganrif hon a bydd pawb sy’n byw yno’n dod yn ffoadur amgylcheddolPerson sy’n gorfod gadael ei gartref oherwydd newidiadau yn yr amgylchedd leol, ee llifogydd, sychder a lefelau’r môr yn codi..
Difrodi riffiau cwrel – wrth i dymheredd y môr godi, bydd ecosystemau fel riffiau cwrel yn marw. Mae’r cwrel yn gwynnuPan fydd y dyfroedd yn rhy gynnes bydd cwrelau’n colli’r algâu sydd yn eu meinweoedd, ac mae hyn yn gwneud i’r cwrel droi’n wyn. sy’n effeithio ar bysgod a phlanhigion eraill sy’n bwydo oddi ar y cwrel. Mae hyn hefyd yn cael effaith negyddol ar dwristiaeth gan fod llawer o bobl yn ymweld â’r Maldives i blymio a snorclo.