Cymarebau a chyfranneddCyfrannedd union

Ysgrifennir cymarebau fel arfer yn y ffurf a:b a gellir eu defnyddio ar fapiau i ddangos graddfa’r map. Mae dau newidyn mewn cyfrannedd union pan fyddan nhw'n cynyddu neu’n lleihau yn yr un gymhareb.

Part ofMathemategCymhareb a chyfrannedd

Cyfrannedd union

Mae dau newidyn mewn cyfrannedd union pan fyddan nhw’n cynyddu neu’n lleihau yn yr un gymhareb, ee cynyddu rhywbeth drwy ei ddyblu, neu ei leihau drwy ei haneru.

Dyma broblem nodweddiadol:

Question

Pris deuddeg pensil ydy \({72}~c\). Beth ydy pris \({30}\) pensil?

Rho gynnig ar hon:

Question

Mae Siani’n prynu \({15}\) pin ffelt. Maen nhw’n costio \(\pounds{2.85}\). Beth fyddai cost \({20}\) pin ffelt?

Os cefaist ti drafferth canfod yr ateb, rho gynnig ar lenwi’r bylchau yn y fan hon:

Question

Pris \({15}\) pin ffelt ydy \(\pounds{2.85}\).

Pris \({1}\) pin ffelt ydy \(\pounds{2.85}\div{?}~=\pounds{0.19}\).