Cymarebau a chyfranneddCymarebau cywerth a’r ffurf symlaf

Ysgrifennir cymarebau fel arfer yn y ffurf a:b a gellir eu defnyddio ar fapiau i ddangos graddfa’r map. Mae dau newidyn mewn cyfrannedd union pan fyddan nhw'n cynyddu neu’n lleihau yn yr un gymhareb.

Part ofMathemategCymhareb a chyfrannedd

Cymarebau cywerth a’r ffurf symlaf

Os wyt ti’n gwneud diod oren ac yn cymysgu un rhan o ddiod oren â phedair rhan o ddŵr, yna cymhareb yr oren i’r dŵr fydd \({1}:{4}\) \(({1}\) i \({4})\).

Os wyt ti’n defnyddio \({1}~litr\) o oren, byddi di’n defnyddio \({4}~litr\) o ddŵr \(({1}:{4})\).

Os wyt ti’n defnyddio \({2}~litr\) o oren, byddi di’n defnyddio \({8}~litr\) o ddŵr \(({2}:{8})\).

Os wyt ti’n defnyddio \({10}~litr\) o oren, byddi di’n defnyddio \({40}~litr\) o ddŵr \(({10}:{40})\).

Mae’r cymarebau \({1}:{4}\), \(~{2}:{8}\) a \(~{10}:{40}\) i gyd yn gywerth a'i gilydd.

Gallwn ni luosi neu rannu dwy ochr y gymhareb â’r un rhif i roi cymhareb gywerth.

Question

Ysgrifenna’r gymhareb \({40}:{28}\) yn ei ffurf symlaf.