Cymarebau a chyfranneddRhannu mewn cymhareb benodol

Ysgrifennir cymarebau fel arfer yn y ffurf a:b a gellir eu defnyddio ar fapiau i ddangos graddfa’r map. Mae dau newidyn mewn cyfrannedd union pan fyddan nhw'n cynyddu neu’n lleihau yn yr un gymhareb.

Part ofMathemategCymhareb a chyfrannedd

Rhannu mewn cymhareb benodol

Question

Mae Dei a Lisa’n ennill \(\pounds{500}\) rhyngddyn nhw. Maen nhw’n cytuno i rannu’r arian yn ôl y gymhareb \({2}:{3}\).

Faint mae’r naill a’r llall yn ei gael?

Trefn

Mae’n bwysig sylwi ym mha drefn mae rhannau’r gymhareb wedi eu hysgrifennu. Dydy \({2}:{3}\) ddim yr un fath â \({3}:{2}\).

Yn yr enghraifft, \({2}:{3}\) oedd cymhareb arian Dei i arian Lisa. Os newidiwn y drefn i \({3}:{2}\) yna byddai Dei’n cael mwy na Lisa.

I’w gadw yr un fath ag yn yr enghraifft gallwn ni ddweud mai cymhareb arian Lisa i arian Dei ydy \({3}:{2}\).

Question

Mae Anwen a Sioned yn ennill swm o arian, ac yn cytuno i’w rannu yn ôl y gymhareb \({5}:{3}\).

Os ydy Anwen yn cael \(\pounds{150}\), faint mae Sioned yn ei gael?

Question

Gwneir cadwyn gan ddefnyddio gleiniau aur ac arian yn ôl y gymhareb \({3}:{2}\). Os oes \({80}\) o leiniau yn y gadwyn:

a) Faint sy’n aur?

b) Faint sy’n arian?

Cadwen yn cynnwys gleiniau aur a gleiniau arian