Systemau gwasgedd uchel
Dosbarthiad tonnau gwres a sychder ledled y byd
Mae cysylltiad agos rhwng ton wresCyfnod o dymheredd uwch nag arfer. a sychderCyfnod hir o lawiad isel sy’n creu prinder dŵr mawr. yn aml, ond dim bob amser. Pan mae tywydd sych am gyfnodau hir, mae’r tir yn sychu, sy’n arwain at sychder. Yn ogystal â hynny gellir cael tymheredd uwch nag arfer, sy’n gwaethygu’r broblem ac yn achosi tonnau gwres. Mae’r map isod yn dangos y rhannau o’r byd lle ceir sychder. Mae rhai ardaloedd, fel Diffeithdir Sahara, canol Awstralia a Chaliffornia (UDA), yn cael tonnau gwres a sychder. Yng ngogledd-ddwyrain Rwsia a rhannau o Chile (De America), fodd bynnag, ceir sychder eithafol ond dim tonnau gwres bob amser.
Sychder yng Nghaliffornia
Ceir sychder yng ngorllewin America bron bob blwyddyn. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r achosion hyn digwydd yn amlach ac maen nhw wedi bod yn fwy dwys. Yn 2012, cafwyd y tymheredd uchaf erioed ond fe gafodd y record honno ei thorri yn 2015 ac eto yn 2016. Rhwng 2012 a 2015, cafwyd sychder am dair blynedd wrth i lefel y glawiad yn ystod y gaeaf ostwng i lefelau anarferol o isel. O ganlyniad i’r sychder hwn, arweiniodd y prinder dŵr yn yr ardal at golli llystyfiant ac at ostyngiad yn lefel trwythiad a lefelau afonydd. Aeth pethau o ddrwg i waeth pan ddechreuodd tanau gwyllt ymledu yn ystod misoedd yr haf. Cafodd 22 o bobl eu lladd yng Nghaliffornia rhwng 2001 a 2016. Dyma’r cyfnod lle cafwyd y nifer mwyaf o farwolaethau yn hanes Califfornia.

Beth achosodd y sychder yng Nghaliffornia
Safle anarferol o uchel y jetlifY rhuban o wyntoedd cryfion sy’n cylchu’r byd ac sy’n gwahanu aer gogleddol oer oddi wrth aer deheuol poeth. oedd i’w feio am y sychder. Fel arfer, yn ystod misoedd y gaeaf, mae systemau gwasgedd isel yn symud i lawr o’r gogledd gan ddod â chymylau glaw. Fodd bynnag, roedd y jetlif yn llawer uwch i’r gogledd nac arfer, a oedd yn caniatáu i systemau gwasgedd uchel o México aros uwchben Califfornia gan achosi tywydd poeth a sych.
Effeithiau’r sychder yng Nghaliffornia
Cymdeithasol
- Dywedwyd wrth berchnogion tai i beidio â defnyddio dŵr yn eu gerddi – cafodd pobl eu gwaharddiad ar bibelli dŵrDeddf i atal pobl rhag defnyddio pibelli dŵr o gwmpas y cartref. ym mhob cwr o'r dalaith.
- Cafodd llawer o bobl eu gorfodi i adael eu cartrefi.
- Cafodd rhai cartrefi eu dinistrio gan y tân.
- Cafodd pobl eu hanafu a chafodd rhai eu lladd, hyd yn oed.
Economaidd
- Collodd ffermwyr bron i $1 biliwn mewn adnoddau – gan gynnwys adeiladau ac offer.
- Stopiodd y rhan fwyaf o argaeau trydan dŵr gynhyrchu trydan.
- Collodd y dalaith dros 17,000 o swyddi amaethyddol.
Amgylcheddol
- Dechreuodd craciau ymddangos mewn adeiladau a ffyrdd, ac roedd dŵr yn cael ei bwmpio allan o'r tir yn gynt na’r glaw oedd yn disgyn yn ei le.
- Cafodd bywyd gwyllt ei ddinistrio wrth i gynefinoedd gael eu llosgi neu eu difrodi gan y sychder.
- Llosgwyd tua 12 miliwn o goed.
- Cafodd eog a brithyll eu lladd mewn afonydd mawr oherwydd bod y cynnydd yn nhymheredd yr afonydd yn arwain at lefelau ocsigen is.
Canlyniadau tymor hirach
Problem fawr sy’n wynebu Califfornia yw nad yw dŵr daear yn cael cyfle i'w adfer ei hun yn ystod y gaeaf, sy’n anghynaliadwy. Mae dŵr yn hanfodol ar gyfer defnydd masnachol, amaethyddol a defnydd domestigDefnyddio dŵr o gwmpas y cartref, er engraifft wrth arddio.. Mae’r effaith hon yn fygythiad mawr i fusnesau, ac yn rhoi pwysau mawr ar yr economi.
(Cynnwys Saesneg)
Hefyd, mae’n rhaid i Galiffornia godi piblinellau dadleuol uwchben y tir er mwyn diwallu'r galw am ddŵr. Mae’r rhain yn ddrud, yn hyll ac yn difrodi'r tirlun. Mae pobl mewn taleithiau eraill hefyd yn flin bod ‘eu dŵr nhw’ yn cael ei gymryd a’i gludo drwy bibellau i Galiffornia.
