Tywydd peryglus – diwasgedd
Mae dau fath gwahanol o systemau gwasgedd yn dod â gwahanol fathau o dywydd i'r DU. diwasgeddMewn termau meteorolegol, mae diwasgedd yn cyfeirio at ardal o bwysedd aer isel. a gwrthseiclonau yw’r rhain. Ar adegau, gall y tywydd sy’n gysylltiedig â'r ddwy system dywydd yma fod yn beryglus iawn.
Diwasgedd
Ardal o wasgedd atmosfferig isel yw diwasgedd. Mae aer sy’n codi yn achosi i gymylau ffurfio, sy’n arwain at law. Mae diwasgedd yn aml yn symud tua'r dwyrain ar draws y DU, gan ddod â thywydd cyfnewidiol wrth iddo deithio. Mae’r diagram isod yn dangos y tywydd cyfnewidiol mae ffryntiau cynnes ac oer yn eu cyflwyno wrth iddyn nhw symud tua'r dwyrain.
Astudiaeth achos – Llifogydd Cymbria, 2015
Ym mis Rhagfyr 2015, torrodd Storm Desmond record newydd wrth i 341.4 mililitr o law ddisgyn mewn 24 awr. Arweiniodd hyn at lifogydd yn ardal Cymbria ac yn enwedig yn nhref Cockermouth, er gwaetha’r rhwystr llifogydd sy’n cau ei hun a gafodd ei adeiladu yn 2013.
Achosion ffisegol
Cafwyd glaw tirweddGlaw sy’n digwydd ar dir uchel ac ardaloedd mynyddig. dros Fynyddoedd Cymbria oherwydd yr aer cynnes o ganol Cefnfor Iwerydd. Po gynhesaf yw’r aer, y mwyaf o leithder mae’n ei ddal.
- Cafodd aer cynnes o ganol Cefnfor Iwerydd ei symud tuag at y tir gan y prifwynt.
- Cafodd yr aer ei wthio am i fyny gan Fynyddoedd Cymbria.
- Wrth i'r aer oeri, cyddwysodd a ffurfio glaw trwm. Arhosodd y ffrynt tywydd dros ardal Cymbria.
- Llifodd y glaw i Afon Derwent ac Afon Cocker.
- Mae tref Cockermouth yn y man lle mae’r afonydd yn cydlifiadLle bydd afon yn ymuno ag afon arall. ac arweiniodd hynny at lifogydd trwm.
Canlyniadau
Wrth ddadansoddi effeithiau trychinebau naturiol, mae’n bwysig eu rhannu i dri maes.
- Cymdeithasol – yr effaith ar bobl a chymunedau.
- Economaidd – yr effaith ar swyddi, isadeiledd cludiant, busnesau ac economïau lleol a chenedlaethol.
- Amgylcheddol – yr effaith ar fywyd gwyllt, cynefinoedd, llystyfiant a dŵr.
Cymdeithasol
- Cafodd y cyflenwad pŵer ei dorri mewn dros 43,000 o gartrefi ledled Cymbria a Sir Gaerhirfryn.
- Cafodd y llifogydd effaith ar oddeutu 5,200 o gartrefi.
- Bu farw un person yn ardal Cymbria.
- Bu’n rhaid i 40 o ysgolion gau yn adral Cymbria.
Economaidd
- Amharwyd ar wasanaethau ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd.
- Dioddefodd nifer o fusnesau oherwydd difrod i eiddo a stoc.
- Amcangyfrifwyd bod y gost ledled Cymbria yn £500 miliwn. Rhoddodd y llywodraeth £50 miliwn i bobl a busnesau a wnaeth ddioddef o ganlyniad i'r llifogydd.
- Rhagfynegwyd y byddai cwmnïau yswiriant yn talu hyd at £325 miliwn i breswylwyr a busnesau.
Amgylcheddol
- Cafodd yr afonydd eu newid yn sylweddol, gyda’r cyfraddau erydu yn cynyddu.
- Cafodd maethynnau eu golchi o’r pridd gan y glaw trwm.
- Cafodd llystyfiant ei foddi, a arweiniodd at golli cynefinoedd.
