Tywydd eithafol – CBACTywydd peryglus – gwrthseiclonau

Gall systemau gwasgedd isel (diwasgedd) a systemau gwasgedd uchel (gwrthseiclonau) achosi digwyddiadau tywydd eithafol mewn sawl rhan o'r byd, gan gynnwys y DU.

Part ofDaearyddiaethTywydd, hinsawdd ac ecosystemau

Tywydd peryglus – gwrthseiclonau

Mae gwrthseiclonau yn gwbl groes i ddiwasgedd – ardal o wasgedd atmosfferig uchel lle mae’r aer yn suddo ydyn nhw.

Wrth i’r aer suddo, nid codi, does dim cymylau na glaw yn ffurfio. Mae hyn oherwydd bod yr aer yn cynhesu wrth iddo suddo, sy’n golygu ei fod yn gallu dal mwy o ddŵr.

Mae'r diffyg ffryntiau yn golygu y gall y gwyntoedd fod yn ysgafn iawn. O ganlyniad i hynny, caiff ardaloedd o wasgedd uchel eu cysylltu ag amodau sefydlog, sych a heulog yn aml.

Yn ystod yr haf, mae gwrthseiclonau yn achosi tywydd sych a phoeth. Yn y gaeaf, gall awyr glir arwain at farrug a nosweithiau oer. Pan mae’n oer, gall gwrthseiclonau achosi niwl a tharth hefyd. Mae hyn oherwydd bod yr oerfel yn gorfodi lleithder yn yr aer i gyddwyso yn isel yn yr awyr.

Caenen o eira ar y glaswellt a’r gwrychoedd i’w gweld yn y cefndir, dan awyr las.
Image caption,
Sylwa ar y barrug a’r awyr glir

Y diwrnod poethaf erioed yn y DU

Cadarnhaodd y Swyddfa Dywydd fod cofnod tymheredd newydd o 40.3 °C (104.5 °F) wedi’i gymryd yn Coningsby, Lloegr ar 19 Gorffennaf 2022, gan ddisodli'r tymheredd uchaf blaenorol o 38.7 °C (101.7 °F) a gofnodwyd yng Nghaergrawnt, Lloegr yn 2019.

Yng Nghymru, y tymheredd poethaf a gofnodwyd erioed yw 37.1 °C (98.8 °F) ar 18 Gorffennaf 2022 ym Maes Awyr Penarlâg, Sir y Fflint.

Effeithiau cymdeithasol

  • Mae pensiynwyr yn dioddef yn ystod tywydd poeth.
  • Mae'r risg o drawiad gwres a llosgi yn cynyddu, yn ogystal ag effeithiau tymor hirach fel gorludded gwres a chancr y croen, hyd yn oed.
  • Rhoddwyd cyfyngiad ar faint o ddŵr a oedd ar gael i gartrefi a busnesau. Mewn rhai ardaloedd yn ne Lloegr, cafodd pobl eu gwahardd rhag defnyddio pibellau dŵr.
  • Mae’r rheini sydd â chlefyd y gwair wedi dioddef, a rhai wedi bod yn yr ysbyty dros dro.

Economaidd

  • Tarfwyd ar wasanaethau ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd oherwydd bod perygl i'r llinellau blygu.
  • Dioddefodd cnydau yn ne Lloegr o sychder, sy’n golygu bod ffermwyr wedi colli miliynau o bunnau o refeniw.
  • Mae absenoldeb oherwydd salwch yn cynyddu gan fod pobl yn rhy sâl i weithio, neu’n dewis cymryd gwyliau i fwynhau'r tywydd braf – felly mae incwm busnesau’n lleihau.

Amgylcheddol

  • Sychodd llystyfiant, a arweiniodd at broblemau o ran bywyd gwyllt. Doedd adar a phryfed ddim yn gallu dod o hyd i gynefinoedd addas.
  • Mae lefelau llygredd yn cynyddu mewn ardaloedd â llawer o draffig.
  • Mae lefelau afonydd a chronfeydd dŵr yn gostwng i lefelau peryglus.