Dechreuad y DirwasgiadYmateb y Llywodraeth

Roedd Cwymp Wall Street yn 1929 wedi plymio America i ddirwasgiad economaidd a arweiniodd at ddirwasgiad Mawr y 1930au. Beth oedd prif achosion y Dirwasgiad?

Part ofHanesDirwasgiad, rhyfel ac adferiad, 1930-1951

Ymateb y Llywodraeth

Roedd y cynnydd mewn diweithdra yn golygu bod y Llywodraeth yn wynebu gwariant sylweddol uwch ar fudd-daliadau. Yn 1931:

  • codwyd y dreth incwm
  • torrwyd 10 y cant ar dâl diweithdra, sef
  • cyflwynwyd y Prawf Modd

Roedd y mesurau hyn yn lleihau’r arian yr oedd gan bobl i’w wario ac roedd hynny’n gwaethygu’r Dirwasgiad.

Dyluniwyd Deddf Tollau 1932 er mwyn diogelu diwydiant Prydain. Bwriad codi tariffau oedd helpu diwydiannau Prydain oherwydd bydden nhw’n golygu y byddai nwyddau o’r tu allan i’r DU yn ddrytach, ac felly yn ddelfrydol byddai pobl a chwmnïau ond yn prynu nwyddau o’r DU.

Ond effaith y ddeddf oedd lleihau swm y masnachu rhyngwladol, ac roedd hynny wedi gwaethygu’r Dirwasgiad.