Humanists UK
Mae Humanists UK (Dyneiddwyr Prydain) yn gweithio ar, ac yn codi ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol, cymdeithasol a byd-eang. Eu nod yw mynd i’r afael â materion sy’n wynebu’r byd heddiw a’u datrys er mwyn cenedlaethau heddiw a fory.
Dydy dyneiddwyr ddim yn gweld yr angen am fod goruwchnaturiol sy’n penderfynu sut mae bodau dynol yn gweithredu. Maen nhw’n dibynnu ar wyddoniaeth i wneud penderfyniadau, ac yn seilio’u gweithredoedd ar hynny.