Golygu ffotograffau
Mae meddalweddY rhaglenni, apiau a data sydd mewn system gyfrifiadurol. Unrhyw ran o system gyfrifiadurol sydd ddim yn rhan ffisegol. golygu ffotograffau yn caniatáu i’r defnyddiwr olygu ac addasu ffotograffau. Fel arfer mae’r ffotograffau hyn yn dod o gamera digidol, ond byddai’n bosibl sganio ffotograffau sy’n bodoli’n barod hefyd. Mae ffotograffau digidolGwybodaeth sy’n cael ei storio fel gwerthoedd arwahanol. Fel arfer mae’n cael ei chynrychioli gan rifau. Mae hyn mewn gwrthgyferbyniad â data analog sy’n cael eu cynrychioli gan ddata parhaus, fel arfer mewn tonnau. yn ddelweddau didfapDelwedd wedi’i gwneud o bicseli. Mae’r math yma o ddelwedd yn colli ei hansawdd os yw ei lled a/neu ei huchder yn cael eu cynyddu..
Mae ystod eang o feddalwedd golygu ffotograffau ar gael, er enghraifft Adobe Photoshop, Corel Paint Shop Pro a GIMP.
Nodweddion
- Tocio – torri ochrau delwedd i ffwrdd er mwyn cael llun o faint addas neu gael gwared ar rannau nad oes eu hangen.
- Addasu cyferbynnedd a disgleirdeb.
- Cael gwared ar lygaid coch.
- Haenau - mae’n bosibl cael nifer o wahanol elfennau o’r graffigyn fel haenau ar wahân. Mae’n bosibl gwneud yr haenau hyn yn anweledig neu hyd yn oed eu dileu unrhyw bryd.
- Offeryn clonio – yn caniatáu i’r defnyddiwr glonio un rhan o’r llun i un arall i gael gwared ar elfen nad oes ei hangen.
- Effeithiau arbennig – mae’r effeithiau’n amrywio o un darn o feddalwedd i’r llall ond fel arfer maen nhw’n cynnwys:
- Effeithiau artistig - er enghraifft, gwneud i lun edrych fel paentiad olew.
- Effeithiau geometrig - er enghraifft, gwneud i ddelwedd ymddangos fel pe bai ar arwyneb pêl.
- Addasiadau lliw - er enghraifft, troi ffotograff yn raddlwyd neu wneud rhai lliwiau’n fwy llachar.