Graffigau fector a didfapGraffigau didfap

Yr enw sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer yr ystod o luniau, lluniadau a delweddau y mae’n bosibl eu cynhyrchu â chyfrifiadur yw graffigau. Y prif fathau o becynnau graffigau yw peintio, lluniadu, golygu ffotograffau a CAD.

Part ofTGChDelweddu digidol

Graffigau didfap

Mae graffigau didfap sy’n cael eu gwneud â phecynnau peintio yn cynnwys llawer o ddotiau bach o’r enw picseli. Mae’n bosibl golygu pob picsel unigol.

Gan fod y cyfrifiadur yn gorfod storio gwybodaeth am bob picsel unigol (er enghraifft y lliw) yn y ddelwedd, mae ffeil graffigau didfap yn aml yn weddol fawr. Mae graffigau didfap yn colli eu hansawdd pan mae’r maint yn cael ei newid.

Delwedd didfap wedi’i chwyddo i ddangos sut mae’r ansawdd yn cael ei golli wrth geisio gwneud delwedd yn fwy.