Delweddu digidol
Graffigau fector a didfap
Yr enw sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer yr ystod o luniau, lluniadau a delweddau y mae’n bosibl eu cynhyrchu â chyfrifiadur yw graffigau. Y prif fathau o becynnau graffigau yw peintio, lluniadu, golygu ffotograffau a CAD.

Offer a thechnegau ar gyfer creu a thrin delweddau llonydd
Mae llawer o wahanol fathau o becynnau ar gyfer creu a thrin delweddau llonydd.
