Graffigau fector a didfapPecynnau lluniadu

Yr enw sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer yr ystod o luniau, lluniadau a delweddau y mae’n bosibl eu cynhyrchu â chyfrifiadur yw graffigau. Y prif fathau o becynnau graffigau yw peintio, lluniadu, golygu ffotograffau a CAD.

Part ofTGChDelweddu digidol

Pecynnau lluniadu

Mae delweddau sy’n cael eu gwneud â phecynnau lluniadu yn cynnwys llinellau, siapiau a chyfesurynnau. Mae pecynnau lluniadu hefyd yn cael eu galw’n becynnau lluniadu fector. Yn gyffredinol, mae pecyn lluniadu’n cynnig llawer o nodweddion tebyg i baentiad.

Graffigau fector

Mae graffigau fector yn seiliedig ar berthnasoedd mathemategol â phwyntiau rheoli sy’n ffurfio’r ddelwedd. Nid yw’r cyfrifiadur yn storio gwybodaeth am bob . Mae’r pwyntiau hyn yn cael eu cysylltu gan linellau a chromliniau sy’n cael eu galw’n llwybrau fector neu fectorau.

Gwrthrychau fector

Siâp sydd wedi’i ffurfio o lwybrau fector yw gwrthrych fector. Mae’n bosibl golygu pob gwrthrych ar wahân, er enghraifft, newid siâp, trawiad, llenwad, maint a lleoliad. Mae trawiad yn dilyn amlinelliad y llwybr fector ac mae llenwad yn ychwanegu lliw i’r ardal y tu mewn i’r llwybr.

Manteision

  • Ffeil lai - yn wahanol i ddelweddau didfap, nid yw graffigau fector yn storio am bob picsel unigol. Ar gyfer darlun mawr, er enghraifft poster, byddai ffeil graffig fector yn llawer llai na ffeil delwedd .
  • Newid graddfa - oherwydd y perthnasoedd mathemategol, pan wyt ti’n newid maint graffigyn fector nid yw’r ddelwedd yn colli ei hansawdd. Byddai’n bosibl addasu graffigyn fector maint stamp i’w ddefnyddio ar boster, a byddai’r ddelwedd yn dal yn glir.
Delwedd fector wedi’i chwyddo i ddangos sut mae’r ansawdd yn cael ei gadw wrth chwyddo’r ddelwedd.

Anfantais

Nid yw’n bosibl i graffigau fector edrych mor realistig â didfapiau neu ffotograffau. Byddant bob amser yn edrych fel pe baent wedi’u cynhyrchu gan gyfrifiadur.