Cadw data’n ddiogel
Mae’r camau y mae’n bosibl eu cymryd er mwyn cadw dataGwerthoedd, llythrennau neu rifau fel arfer. yn ddiogel yn cynnwys:
- gwneud copi wrth gefnCopi o ffeiliau pwysig sy’n cael ei gadw ar wahân rhag ofn i’r ffeiliau gwreiddiol gael eu colli neu eu niweidio. o ffeiliau yn rheolaidd (dylai copïau wrth gefn gael eu storio mewn sêff sy’n gallu gwrthsefyll tân neu mewn adeilad arall)
- amddiffyn rhag firwsRhaglen fach sydd wedi’i hysgrifennu er mwyn achosi niwed i gyfrifiadur. drwy redeg meddalweddY rhaglenni, apiau a data sydd mewn system gyfrifiadurol. Unrhyw ran o system gyfrifiadurol sydd ddim yn rhan ffisegol.gwrthfirwsMae meddalwedd gwrthfirws yn sganio dyfeisiau storio o bob math am firysau (rhaglenni sy’n gallu achosi niwed i gyfrifiaduron). Os yw’r feddalwedd yn dod o hyd i firysau mae’n ceisio cael gwared arnynt.
- defnyddio system o gyfrineiriau fel bod mynediad at ddata wedi’i gyfyngu
- storio ffeiliau pwysig yn ddiogel ar disg symudadwyUnrhyw gyfrwng storio y mae’n bosibl ei dynnu’n rhwydd o le pwrpasol ar ei gyfer, er enghraifft CDs neu DVDs., er enghraifft, wedi’u cloi mewn sêff sy’n gallu gwrthsefyll tân a dŵr
- peidio â gadael i neb ar wahân i staff sydd wedi’u hawdurdodi fynd i rai ardaloedd, er enghraifft drwy ddefnyddio cardiau adnabod neu gardiau sweipio magnetig i reoli mynediad i’r ardaloedd hyn
- allgofnodi neu ddiffodd terfynellDyfais sy’n terfynu signalau i’w hatal rhag adlewyrchu yn ôl i lawr y llinell. bob amser, a’u cloi os yw hynny’n bosibl
- cymryd camau i sicrhau nad yw ffeiliau’n cael eu dileu’n ddamweiniol drwy diogelu rhag ysgrifennuPan mae disg (er enghraifft) yn cael ei ddiogelu rhag ysgrifennu, does dim modd ysgrifennu mwy o ddata arno, na golygu data sydd arno’n barod. arnynt
- defnyddio technegau amgryptioMae ffeiliau sydd wedi’u hamgryptio wedi cael eu haddasu gan ddefnyddio cod cyfrinachol ac nid yw partïon sydd heb gael eu hawdurdodi yn gallu eu darllen. data er mwyn codio data i wneud iddyn nhw edrych fel petaen nhw’n gwneud dim synnwyr
Bancio ar-lein
Pan fyddi di’n bancio ar-lein, ar ôl i ti fewngofnodi, byddi di’n sylwi bod yr HTTPProtocol Trosglwyddo Hyperdestun (Hypertext Transfer Protocol) – safon ar gyfer ceisiadau/ymatebion. Mae porwyr gwe yn anfon ceisiadau ac mae gwefannau neu weinyddion yn ymateb i geisiadau. yn y bar cyfeiriad wedi newid i https. Mae hyn yn dangos bod cysylltiad diogel wedi’i sefydlu rhwng dy gyfrifiadur di a chyfrifiadur y banc. Mae data sy’n cael eu hanfon rhwng y ddau gyfrifiadur yn cael eu hamgryptio, felly bydd unrhyw un sy’n ceisio rhyng-gipio dy ddata yn derbyn data sy’n golygu dim. Yr unig ffordd o ddadgryptio’r data a chael data darllenadwy yw drwy ddefnyddio allwedd nad oes ond dau gyfrifiadur yn gwybod amdano – dy gyfrifiadur di a chyfrifiadur y banc.