Dulliau diogelu dataDiogelwch data

Gall data fod yn werthfawr iawn ac mae’n bwysig iawn bod busnesau’n eu cadw’n ddiogel.

Part ofTGChSefydliadau

Diogelwch data

Mae diogelwch data yn golygu bod data’n cael eu cadw’n ddiogel. Mae diogelwch data’n effeithio ar bawb sy’n dibynnu ar system gyfrifiadurol. Os yw’r data sydd ar system gyfrifiadurol yn cael ei ddifrodi, ei golli, neu ei ddwyn, gall fod yn drychineb.

Y prif fygythiadau sy’n ymwneud â diogelwch data

Gallai data:

  • fynd ar goll neu gael eu difrodi pan mae system yn chwalu - yn enwedig os yw’r yn effeithio ar y
  • cael eu llygru o ganlyniad i ddisgiau diffygiol, gyriannau disg diffygiol neu doriadau yn y cyflenwad trydan
  • cael eu colli o ganlyniad i ddileu ffeiliau’n ddamweiniol neu ysgrifennu drostynt yn ddamweiniol
  • cael eu colli neu gael eu llygru gan cyfrifiadurol
  • cael eu gan ddefnyddwyr heb ganiatâd a’u dileu neu eu haddasu
  • cael eu dinistrio gan drychinebau naturiol, terfysgaeth neu ryfel
  • cael eu dileu neu eu haddasu gan weithwyr sydd eisiau gwneud arian neu ddial ar eu cyflogwr
Enghreifftiau o fygythiadau i ddiogelwch data, er enghraifft difrod i galedwedd, hacio, llygru, colli data, dinistrio data a dileu data.

More guides on this topic