Peryglon posibl ac atebion
Ym maes technoleg gwybodaeth mae’n bwysig bod pobl yn ymwybodol o’r materion iechyd a diogelwch amrywiol. Yn ychwanegol at hyn, mae angen cymryd camau er mwyn atal problemau cyffredin rhag digwydd, yn hytrach na cheisio’u datrys yn nes ymlaen.
Problemau cefn
Mae llawer o ddefnyddwyr cyfrifiaduron yn dioddef problemau cefn difrifol. Mae’n debyg bod hyn oherwydd y ffordd maen nhw’n eistedd wrth y cyfrifiadur.
Atebion
- Dylai cadair y mae’n bosibl ei haddasu helpu i sicrhau bod yr unigolyn yn eistedd yn iawn.
- Gall stôl droed leihau’r problemau hyn.
- Dylai sgriniau ogwyddo a throi fel nad yw’r unigolyn yn gwneud symudiadau anghyfforddus.
Straen llygaid
Mae edrych ar sgrin cyfrifiadur am amser hir yn rhoi straen ar y llygaid, yn enwedig os yw rhywun yn gweithio mewn golau gwael, mewn golau llachar neu wrth sgrin lle mae’r llun yn crynu.
Atebion
- Gall hidlyddion sgriniau atal canran uchel o’r pelydrau niweidiol sy’n cael eu hallyrru o sgrin cyfrifiadur.
- Defnyddio sgriniau lle nad yw’r llun yn crynu.
- Cymryd egwyl yn rheolaidd – peidio gweithio am fwy nag awr heb egwyl.
- Rhaid cael golau addas a rhaid gosod bleinds ar ffenestri i atal golau llachar.
Anaf Straen Ailadroddus (RSI)
Niwed i’r bysedd, arddyrnau a rhannau eraill o’r corff o ganlyniad i symudiadau ailadroddus dros gyfnod hir yw Anaf Straen Ailadroddus (RSI).
Ateb
- Er mwyn atal RSI, mae angen dal y corff yn iawn, defnyddio rhywbeth i bwyso arddwrn arno a chymryd egwyl o bum munud oddi wrth y teipio bob awr.
Effeithiau oson
Mae arbenigwyr iechyd wedi awgrymu bod oson sy’n cael ei allyrru o argraffyddion laserMae tudalennau’n cael eu hargraffu drwy ymdoddi’r inc ar y papur drwy ddefnyddio cysylltiad uniongyrchol a gwres. yn gallu arwain at broblemau anadlu.
Ateb
- Mae’r arbenigwyr yn argymell y dylai pobl eistedd o leiaf un metr oddi wrth argraffyddion laser ac y dylai’r ardal o’u cwmpas gael ei hawyru’n dda.