Iechyd a diogelwch wrth weithio gyda chyfrifiaduronRheoliadau i gyflogwyr

Mae problemau iechyd amrywiol yn gysylltiedig â defnydd rheolaidd o gyfrifiaduron. Oherwydd hyn, rhaid i gyflogwyr fod yn ymwybodol o’r rheoliadau sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch wrth ddefnyddio cyfrifiaduron.

Part ofTGChMaterion iechyd

Rheoliadau i gyflogwyr

Mae’r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i gyflogwr:

  • ddarparu sgriniau sy’n gogwyddo
  • darparu hidlyddion sgriniau i atal golau llachar
  • darparu cadeiriau y mae’n bosibl eu haddasu
  • darparu stolion traed
  • gwneud yn siŵr bod y golau’n addas
  • gwneud yn siŵr bod digon o le rhwng
  • cynllunio gwaith wrth gyfrifiadur fel bod gweithwyr yn cael egwyl yn aml
  • talu am brofion llygaid a golwg priodol gan optegydd

Sylwer:Nid yw’r rheoliadau hyn yn gymwys i ddisgyblion neu fyfyrwyr mewn ysgolion a cholegau.

Er mwyn darparu cyfarpar boddhaol ar gyfer eu gweithwyr, mae cyflogwyr yn defnyddio ergonomeg fel rhan o’r broses o ddylunio cyfarpar. Dyma’r wyddor sy’n ymwneud â dylunio amgylchedd gwaith diogel a chyfforddus i bobl. Mae hyn yn cynnwys dylunio dodrefn a rhannau o’r cyfrifiadur, fel y bysellfwrdd a’r llygoden.