Amgylchedd gwaith cyffredinol
Cofia fod y rheolau ar gyfer pob dyfais drydanol yn gymwys mewn ystafell gyfrifiaduron. Mae hyn yn golygu bod rhaid sicrhau:
- nad oes gwifrau rhydd ar y llawr
- nad oes bwyd a diod yn agos i beiriant
- nad yw socedi trydan wedi cael eu gorlwytho
- bod digon o le o gwmpas y peiriant
- bod y systemau gwresogi ac awyru’n addas
- bod y golau’n addas, ac nad oes golau llachar nac adlewyrchiad
- bod meinciau a desgiau’n ddigon cryf i ddal y cyfrifiaduron