Olew a chracioCracio

Mae’r rhan fwyaf o'n tanwyddau a'n plastigion yn deillio o olew. Gallwn ni ddefnyddio distyllu ffracsiynol i wahanu olew crai yn wahanol ffracsiynau.

Part ofCemegOlew crai, tanwyddau a chemeg organig

Cracio

Dydy tanwyddau sydd wedi’u gwneud o gymysgeddau olew sy’n cynnwys moleciwlau mawr ddim mor effeithlon, oherwydd dydyn nhw ddim yn llifo’n rhwydd ac maen nhw’n anodd eu . Mae yn aml yn cynnwys gormod o foleciwlau hydrocarbon mawr a dim digon o foleciwlau hydrocarbon bach i fodloni’r galw. Dyma pryd mae angen cracio.

Mae cracio’n ein galluogi ni i dorri moleciwlau hydrocarbon mawr yn foleciwlau hydrocarbon llai sy’n fwy defnyddiol. Rydyn ni’n gwresogi sy’n cynnwys moleciwlau hydrocarbon mawr er mwyn eu nhw. Yna, bydd angen:

  • eu gwresogi nhw i 600-700°C
  • eu gyrru nhw dros o silica neu alwmina

Mae’r prosesau hyn yn torri yn y moleciwlau, gan achosi adweithiau . Mae cracio yn cynhyrchu ac llai.

Cracio decan

Mae’r enghraifft ganlynol yn dangos sut rydyn ni’n cynhyrchu mwy o betrol i ateb y galw. Mae mwy o alw am hydrocarbonau llai nag am rai mwy.

decan → octan + ethen

C10H22 → C8H18 + C2H4

Mae’r broses fel a ganlyn:

Fformiwla adeileddol y broses o gracio decan, gan wneud octan ac ethen.

Mae rhai o’r hydrocarbonau llai sy’n cael eu ffurfio drwy gracio yn cael eu defnyddio fel tanwyddau. Er enghraifft, mae cadwynau mawr yn cael eu cracio i ffurfio octan i wneud petrol, gan fod llawer o alw amdano. Mae'r alcenau'n cael eu defnyddio i wneud wrth gynhyrchu plastigion. Weithiau, mae’r broses gracio’n cynhyrchu hydrogen hefyd.