Pwysigrwydd byd-eang olew crai
Mae cynhyrchu olew craiCymysgedd o hydrocarbonau, alcanau yn bennaf, sydd wedi eu ffurfio dros filiynau o flynyddoedd o weddillion organebau morol o’r oes a fu. hanfodol i’r economi fyd-eang, gan fod cymdeithas fodern yn dibynnu cymaint ar ddefnyddio olew crai. Dyma rai pwyntiau i’w cofio.
Pwysigrwydd economaidd
- Cwmnïau olew sy’n rheoli pris olew crai. Mae hyn yn golygu bod ganddyn nhw lawer iawn o ddylanwad ar yr economi fyd-eang, a bod gwledydd tlotach yn gallu colli rheolaeth dros eu heconomi eu hunain yn hawdd.
- Mae gan wledydd sy’n cynhyrchu olew ar gyfer gwledydd eraill lawer iawn o bŵer gwleidyddol, oherwydd i bob diben maen nhw’n gallu atal gwledydd eraill rhag cael cyflenwad olew crai os ydyn nhw’n cael anghydfod gwleidyddol.
- Mae rhyfel neu argyfwng gwleidyddol mewn gwlad sy’n cynhyrchu olew’n gallu cyfyngu ar gyflenwadau olew crai, ac mae hynny’n gallu cael effaith ddifrifol ar yr economi fyd-eang.
Materion amgylcheddol
- Mae llosgi tanwyddau ffosil yn rhyddhau carbon deuocsid i’r atmosffer. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn derbyn bod hyn yn un o’r prif bethau sy’n cyfrannu at gynhesu byd-eang.
- Mae gollyngiadau olew’n gallu cael effaith drychinebus ar yr amgylchedd lleol, gan ladd miloedd o anifeiliaid fel pysgod ac adar môr, ac mae angen llawer iawn o ymdrech i’w glanhau nhw.
- Mae purfeydd olew a gorsafoedd trydan sy’n llosgi olew’n defnyddio llawer o dir ac felly’n dinistrio cynefinoedd bywyd gwyllt posibl ac yn difetha cefn gwlad. Fodd bynnag, nid dim ond problem i’r diwydiant olew yw hon – mae hyn yn wir am unrhyw safle diwydiannol.