Datrys hafaliadau cydamserol trwy’r dull algebraidd
Gelli di ddatrys hafaliadau cydamserol drwy adio’r ddau hafaliad neu dynnu un oddi wrth y llall.
Enw’r dull hwn ydy’r dull algebraidd.
Datrysa’r hafaliadau cydamserol:
\({2x} + {y} = {9}\) \(({1})\)
\({3x} - {y} = {1}\) \(({2})\)
Adia’r ddau hafaliad â’i gilydd ac fe weli di fod yr \({y}\) yn diflannu:
\({3x} + {2x} + {y} - {y} = {9} + {1}\)
Gallwn ni symleiddio hyn i:
\({5x} = {10}\)
\({x} = {2}\)
Mae amnewid y gwerth hwn am \({x}\) yn hafaliad \(({1})\) yn rhoi:
\({4} + {y} = {9}\)
\({y} = {5}\)
Gwiria yn hafaliad \(({2})\):
\({6} - {5} = {1}\) (sy’n gywir)
Felly yr ateb ydy: \({x} = {2}\), \({y} = {5}\)
Question
Datrysa’r hafaliadau cydamserol:
\({3x} + {2y} = {8}\)
\({3x} - {y} = {5}\)
Yn gyntaf, labela’r hafaliadau:
\({3x} + {2y} = {8}\) \(({1})\)
\({3x} - {y} = {5}\) \(({2})\)
I wneud i’r ddau \({3x}\) ddiflannu gallwn ni dynnu hafaliad \(({2})\) o hafaliad \(({1}):\)
\({3x} - {3x} + {2y} - (-{y}) = {8} - {5}\)
Mae hyn yn symleiddio i:
\({3y} = {3}\)
\({y} = {1}\)
Amnewidia yn hafaliad \(({2})\):
\({3x} + {2} = {8}\)
\({3x} = {6}\)
\({x} = {2}\)
Gwiria yn hafaliad \(({2})\):
\({6} - {1} = {5}\) (sy’n gywir)
Felly yr ateb ydy \({x} = {2}\), \({y} = {1}\)