Cyfrifiadau titradu [Haen uwch yn unig]
Mae disgwyl i ti ddefnyddio data titradu i gyfrifo naill ai crynodiad neu gyfaint hydoddiant. Bydd y cwestiynau hyn i gyd yn rhoi crynodiad a chyfaint un o’r hydoddiannau (er mwyn i ti allu cyfrifo nifer y molau) yn ogystal â hafaliad symbolau cytbwys yr adwaith. Dyma rai enghreifftiau.
Cyfrifiadau crynodiad
Bydd y math hwn o gwestiwn yn rhoi gwybodaeth i ti ac yn gofyn i ti gyfrifo crynodiad un o’r hydoddiannau. Dyma enghraifft.
Mae 50.00 cm3 o HNO3 dyfrllyd yn cael ei niwtraleiddio gan 25.00 cm3 o hydoddiant bariwm hydrocsid 0.2 mol/dm3. Cyfrifa grynodiad yr asid nitrig.
Ba(OH)2 + 2HNO3 → Ba(NO3)2 + 2H2O
1. Rydyn ni wedi cael crynodiad a chyfaint yr hydoddiant bariwm hydrocsid, felly gallwn ni gyfrifo nifer y molau o’r bariwm hydrocsid (cofia: 25.00 cm3 = 0.025dm3).
Mol(Ba(OH)2) = 0.025 × 0.2 = 0.005 mol
2. Nawr, rydyn ni’n edrych ar yr hafaliad cytbwys i ganfod nifer y molau o’r asid nitrig.
Mol(HNO3) = 2 × Mol(Ba(OH)2) = 2 × 0.005 = 0.01mol
3. Nawr bod gennyn ni nifer y molau o asid sylffwrig, rydyn ni’n defnyddio’r molau a’r cyfaint i gyfrifo’r crynodiad (cofia: 50.00 cm3 = 0.05dm3).
Crynodiad (HNO3) = 0.01 ÷ 0.05 = 0.2 mol/dm3
Cyfrifiadau cyfaint
Bydd y math hwn o gwestiwn yn rhoi gwybodaeth i ti ac yn gofyn i ti gyfrifo cyfaint un o’r hydoddiannau. Dyma enghraifft.
Cyfrifa gyfaint yr H2SO4 0.5 mol/dm3 sydd ei angen i adweithio’n union â 20.00 cm3 o hydoddiant KOH 2 mol/dm3.
H2SO4 + 2KOH → K2SO4+ 2H2O
1. Rydyn ni wedi cael crynodiad a chyfaint yr hydoddiant potasiwm hydrocsid, felly gallwn ni gyfrifo nifer y molau o’r potasiwm hydrocsid (cofia: 20.00 cm3 = 0.02dm3).
Mol(KOH) = 0.02 × 2 = 0.04 mol
2. Nawr, rydyn ni’n edrych ar yr hafaliad cytbwys i ganfod nifer y molau o’r asid sylffwrig.
Mol(H2SO4) = 0.5 × Mol(KOH) = 0.5 × 0.04 = 0.02mol
3. Nawr bod gennyn ni nifer y molau o asid sylffwrig, rydyn ni’n defnyddio’r molau a’r crynodiad i gyfrifo’r cyfaint.
Cyfaint (H2SO4) = 0.02 ÷ 0.5 = 0.04 dm3 (40 cm3)