Bonedd Cymru – Catrin o Ferain a'r teulu Wynn
Y bonedd yn dod i’r amlwg
Yn ystod teyrnasiad Elisabeth, daeth y bonedd yn bwerus yng Nghymru. Roedden nhw’n flaenllaw ym mywyd gwleidyddol a chymdeithasol y wlad, gan adeiladu eu ffortiwn a’u dylanwad drwy briodi’n ofalus, swyddi blaenllaw mewn llywodraeth leol a chasglu tir.
Serch hynny, nid dynion yn unig oedd yn gallu cynyddu eu cyfoeth, eu pŵer a’u dylanwad yn ystod y cyfnod hwn.
Catrin o Ferain (1534/5-1591)

Roedd priodasau a drefnwyd yn ofalus yn ffordd o gynyddu cyfoeth a phŵer, ac un o’r enghreifftiau gorau yn ystod y cyfnod hwn oedd bywyd Catrin o Ferain.
Wedi’i geni i deulu bonedd yn Sir Ddinbych, priododd mewn i deuluoedd bonedd blaenllaw bedair o weithiau.
- John Salusbury, oedd yn berchen ar ystâd gyfoethog Lleweni ar gyrion Dinbych, a fu farw yn 1566.
- Syr Richard Clough oedd yn fasnachwr llwyddiannus, ac yn flaenllaw yn y byd bancio, a fu farw yn 1570.
- Morus Wynn o Wydir ger Llanrwst, sef tad Syr John Wynn. Daeth y teulu Wynn yn un o deuluoedd mwyaf pwerus gogledd Cymru. Bu farw Wynn yn 1580.
- Edward Thelwell, wnaeth fyw yn hirach na Catrin.
Y teulu Wynn
Trydydd gŵr Catrin, Morus Wynn o Lanrwst, oedd Siryf Sir Gaernarfon. Cyn iddo briodi Catrin, roedd ganddo fab o’i briodas flaenorol, John, a gymerodd awenau ystâd ei dad yn 1580, a daeth y teulu yn un rhai o’r mwyaf dylanwadol yng ngogledd Cymru.
Defnyddiodd John Wynn ei statws i gael nifer o swyddi pwysig mewn llywodraeth leol, ac mae ei enghraifft e yn dangos sut roedd llywodraeth leol yn cael ei dominyddu gan bobl o’r fath. Er enghraifft, gwasanaethodd fel siryf, AS a Dirprwy Raglaw cyn cael ei urddo’n farchog yn 1608. Ar ôl hynny, daeth yn aelod o Gyngor Cymru a’r Gororau, cyn dod yn farwnig yn 1611.