Pryderon y Senedd
Yn ogystal â threthiant a rhyddid barn, roedd y Senedd yn poeni am briodas, crefydd a monopolïau.
Priodas
Roedd rhai Aelodau Seneddol yn teimlo y dylai Elisabeth enwi cariad i’w briodi ac i gynhyrchu etifedd er mwyn diogelu’r llinell olyniaethEtifeddu neu gymryd safle neu deitl.. Ymateb Elisabeth oedd mai ei busnes preifat hi oedd hynny ac y byddai’n priodi os a phryd bynnag y byddai’n gyfleus.
Ar hyn o bryd, nid yw’n gyfleus; ni fydd byth yn gyfleus heb rywfaint o berygl i chi a rhywfaint o berygl i fi
Crefydd
Roedd Elisabeth yn ProtestantCristnogion a dorrodd oddi wrth yr Eglwys Gatholig Rufeinig yn ystod y Diwygiad. Roedden nhw’n credu yn athroniaeth y Beibl ond yn gwrthod awdurdod y Pab. ac fe wnaeth adfer Eglwys LoegrCangen Lloegr o’r Eglwys Gristnogol Orllewinol. pan ddaeth i bŵer, ond er mwyn osgoi gwrthdaro crefyddol, cynigiodd ‘ffordd ganol’ oedd yn caniatáu peth addoli a thraddodiadau CatholigYr Eglwys yng Ngorllewin Ewrop cyn y Diwygiad Protestannaidd. Y Pab oedd pennaeth yr Eglwys. Aelod o’r Eglwys Gatholig Rufeinig.. Roedd rhai Aelodau Seneddol PiwritanProtestant eithafol oedd eisiau puro’r Eglwys, cael gwared ar holl elfennau Catholigiaeth ac arwain bywyd plaen a syml. yn anghytuno gyda’r cyfaddawd hwn a heriwyd Elisabeth drwy fygwth i beidio â rhoi arian trethi iddi. Dywedodd Elisabeth fod crefydd yn ‘fater i’r wlad’, ac nid i’r Senedd, ac fe wnaeth Elisabeth eu gwahardd rhag trafod crefydd.
Monopolïau
Roedd monopolïau yn rhoi’r hawl unigryw i uchelwrRhywun o dras bonheddig gyda theitl. a masnachwyr unigol i gynhyrchu neu werthu nwyddau penodol. Drwy’r monopolïau, bwriad Elisabeth oedd hyrwyddo busnesau a hybu’r economi, ond oherwydd mai un person bellach oedd yn rheoli’r cyflenwad o gynnyrch penodol, roedd yn golygu bod prisiau’n codi. Gwnaeth Elisabeth, oedd mewn dyled o £227,000 ar ddechrau ei theyrnasiad, arian wrth ddyfarnu’r trwyddedau monopoliTrwydded frenhinol oedd yn rhoi hawl unigryw i unigolion gynhyrchu neu werthu nwyddau..
Tuag at ddiwedd teyrnasiad Elisabeth, teimlai rhai Aelodau Seneddol fod monopolïau yn annheg ac yn cael eu camddefnyddio. Cafwyd gwrthwynebiad yn eu herbyn yn 1597-8 ac 1601 ac ni fydden nhw’n fodlon caniatáu trethi nes i’r monopolïau gael eu diddymu.
Yn ystod y cyfnod hwn, cyfaddawdu wnaeth Elisabeth a thynnodd rai monopolïau yn ôl. Hefyd, gwnaeth araith hir yn canmol y Senedd, a chafodd yr araith honno ei galw ‘Yr Araith Euraidd’, oedd yn dangos unwaith eto ei bod yn ddoeth ac yn graff wrth reoli.