EsblygiadProsiect y Genom Dynol

Esblygiad trwy ddetholiad naturiol oedd y ddamcaniaeth a gynigiwyd gan Darwin a Wallace. Pa dystiolaeth sydd yna yn y byd heddiw i awgrymu bod rhywogaethau’n esblygu trwy’r dull hwn?

Part ofBiolegAmrywiad, homeostasis a micro-organebau

Prosiect y Genom Dynol

Genom yw’r term am y wybodaeth enetig mewn organeb. Cychwynnwyd Prosiect y Genom Dynol (Human Genome Project), ddiwedd y ganrif ddiwethaf. Roedd yn uchelgeisiol iawn ac yn anelu at sawl nod, gan gynnwys:

  • canfod trefn neu ddilyniant pob un o’r tri biliwn o barau basau yn y genom dynol
  • adnabod y genynnau i gyd
  • datblygu dulliau cyflymach ar gyfer dilyniannu DNA

Daeth y prosiect dilyniannu i ben yn 2001, ac mae gwaith yn parhau ar geisio adnabod yr holl enynnau yn y genom dynol. Y gobaith yw y bydd gwybodaeth o Brosiect y Genom Dynol yn caniatáu i wyddonwyr ddatblygu ffyrdd newydd o drin neu ddiagnosio clefydau, yn enwedig anhwylderau genetig a chanser.

Anhwylderau genetig

Mae dioddefwr ffibrosis cystig wedi etifeddu dau alel diffygiol ar gyfer genyn penodol ar un o’i gromosomau, sef cromosom 7. Y gobaith yw y gallai ryw ddydd fod yn bosibl trwsio’r alelau diffygiol drwy therapi genynnol, er enghraifft drwy roi’r alel normal i mewn i gelloedd yr ysgyfaint. Byddai hyn yn hwb mawr i fywydau pobl â ffibrosis cystig, sydd angen trawsblaniad ysgyfaint yn aml wrth i’w clefyd ddatblygu.

Canser y fron

Mae risg arbennig i rai pobl ddatblygu rhai mathau o ganser y fron, am bod aelodau o’u teulu’n cludo alelau diffygiol. Mae’r alelau hyn wedi’u hadnabod, ac erbyn hyn mae’n bosibl rhoi prawf i bobl i weld a oes risg uwch iddynt ddatblygu canser y fron. Mae hyn yn caniatáu iddynt wneud penderfyniadau ynghylch a ddylent gael llawdriniaeth i dynnu meinwe’r fron cyn i unrhyw ganser ddatblygu yn eu bronnau.