Y system nerfolY llygad

Mae ein system nerfol yn ein galluogi ni i ganfod newidiadau i’r amgylchedd ac ymateb iddynt. Mae organau synhwyro yn canfod newidiadau ac mae'r brif system nerfol yn cyd-drefnu'r ymateb.

Part ofBiolegAmrywiad, homeostasis a micro-organebau

Y llygad

Mae’r llygad yn organ synhwyro sy’n ymateb i olau.

Trawstoriad o'r llygad dynol, wedi'i labelu.
RhanSwyddogaeth
CornbilenYn plygu golau wrth iddo fynd i mewn i’r llygad.
IrisCyhyrau sy’n newid maint cannwyll y llygad, yn rheoli faint o olau sy’n mynd i mewn i’r llygaid.
LensYn ffocysu golau ar y retina.
RetinaYn cynnwys y derbynyddion golau.
Nerf optigYn cludo ysgogiadau rhwng y retina a’r ymennydd.
SgleraCot allanol wen, wydn.
CoroidHaen ganol sy'n cynnwys pigmentau a llawer o bibellau gwaed. Mae'n amsugno golau i osgoi adlewyrchiad ac mae'n rhoi maeth i'r retina.
DallbwyntLle mae'r nerf optig yn gadael y retina, felly does dim celloedd derbyn.
Cannwyll y llygadTwll bach yng nghanol yr iris, lle mae golau'n mynd i mewn i'r llygad.
RhanCornbilen
SwyddogaethYn plygu golau wrth iddo fynd i mewn i’r llygad.
RhanIris
SwyddogaethCyhyrau sy’n newid maint cannwyll y llygad, yn rheoli faint o olau sy’n mynd i mewn i’r llygaid.
RhanLens
SwyddogaethYn ffocysu golau ar y retina.
RhanRetina
SwyddogaethYn cynnwys y derbynyddion golau.
RhanNerf optig
SwyddogaethYn cludo ysgogiadau rhwng y retina a’r ymennydd.
RhanSglera
SwyddogaethCot allanol wen, wydn.
RhanCoroid
SwyddogaethHaen ganol sy'n cynnwys pigmentau a llawer o bibellau gwaed. Mae'n amsugno golau i osgoi adlewyrchiad ac mae'n rhoi maeth i'r retina.
RhanDallbwynt
SwyddogaethLle mae'r nerf optig yn gadael y retina, felly does dim celloedd derbyn.
RhanCannwyll y llygad
SwyddogaethTwll bach yng nghanol yr iris, lle mae golau'n mynd i mewn i'r llygad.