Y Sbectol Hud gan Mererid HopwoodIaith ac arddull

Ymuna gyda Mererid Hopwood wrth iddi roi cipolwg i ni ar y byd drwy ffenest dychymyg. Mae’n ein hannog i ddefnyddio ein dychymyg i weld y byd drwy bâr o lygaid newydd, neu ‘sbectol hud’.

Part ofLlenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Iaith ac arddull

Mae iaith y soned hon yn syml a hyfryd, sy’n gwrthgyferbynnu â’r gamp o lunio cerdd sy’n dilyn rheolau mor bendant, er enghraifft cwato, sbecs, ym mhoced ôl dy jîns.

Trosiad

sbectol hud

Mae’r sbectol hud yn y gerdd ac yn y teitl yn drosiad i ddisgrifio’r dychymyg, sy’n arf i roi gwedd newydd ar bopeth ac yn ein helpu i weld yn well ac i ddisgrifio’n fanylach.

niwl yn gwisgo’r bryniau

Gwisg yw’r niwl sy’n ddigon trwchus i guddio’r dirwedd fel mae dillad yn cuddio’r corff yn effeithiol rhag i neb weld y noethni oddi tanodd.

Cyffelybiaeth

a’r machlud fel y wawr

Mae hyn yn effeithiol oherwydd bod machlud a gwawr yn hollol wrthgyferbyniol, sef nos a dydd. Ond pan fo’r haul wedi suddo mor isel i’r gorwel fel na ellir gwahaniaethu rhwng y ddau gyfnod, mae’n bryd i ni ddefnyddio ein dychymyg.

Personoli

y blodau trist yn crio’r glaw

Disgrifiad syml ond effeithiol yn darlunio’r blodau gyda eu pennau i lawr dan bwysau glaw ar ddiwrnod diflas. Mae emosiwn dynol i flodyn yn ein tynnu ni’r darllenwyr i mewn i fyd natur ac mae natur hefyd yn cydymdeimlo gyda ninnau pan fo’r tywydd yn wlyb a digalon.

Ansoddeiriau

Mae’r ansoddeiriau’n syml ac yn unsill, ac yn cyfrannu at naws y gerdd ac at ei hystyr, sef nad yw defnyddio’r dychymyg yn anodd ychwaith.

trist

Gall pawb uniaethu â’r teimlad hwn ac mae’r berthynas agos y mae modd i ni ei chael gyda natur, drwy briodoli emosiynau dynol i flodau, yn cael ei phwysleisio.

hud

Yn rhan o deitl y gerdd ac o’r trosiad sy’n cynnal yr holl ddelwedd o’r dychymyg fel sbectol arbennig, mae 'hu' yn odli ac yn cyferbynnu gyda byd yn y chwechawd sef y realiti rydym i gyd yn rhan ohono. Gallwn ddianc rhag y byd bob dydd a bod yn fwy effro i’w ryfeddodau os defnyddiwn sbectol hud ein dychymyg.

Iaith berswadiol

rho, Ti’n gweld, gwisga, mentra

Mae’r gyfres o orchmynion yn cael eu rhestru yma er mwyn ein perswadio ninnau i ddefnyddio ein dychymyg ond gan fod y gorchmynion yn yr ail berson (‘ti’) maent yn gyfeillgar a chefnogol. Nid ydym yn teimlo ein bod ni'n cael ein gorfodi.